Polisi Cwcis UCM DU, Gwasanaethau UCM a Gwasanaethau Elusennol UCM
Beth yw cwcis?
Mae'r Polisi Cwcis hwn yn egluro beth yw cwcis a sut rydym yn eu defnyddio, y mathau o gwcis a ddefnyddiwn, h.y. y wybodaeth a gasglwn gan ddefnyddio cwcis a sut mae'r wybodaeth honno'n cael ei defnyddio, yn ogystal â sut i reoli'r gosodiadau’r cwcis.
Ffeiliau testun bach yw cwcis a ddefnyddir i storio darnau bach o wybodaeth. Maent yn cael eu storio ar eich dyfais pan fydd y wefan yn cael ei llwytho ar eich porwr. Mae'r cwcis hyn yn ein helpu i wneud i'r wefan weithio'n iawn, ei gwneud yn fwy diogel, darparu gwell profiad i ddefnyddwyr, a deall sut mae'r wefan yn perfformio ac i ddadansoddi beth sy'n gweithio a lle mae angen ei gwella.
Sut ydyn ni’n defnyddio cwcis?
Mae’n bosib y byddwn yn casglu gwybodaeth yn awtomatig wrth i chi ddefnyddio ein gwasanaethau digidol fel ein gwefannau. Gall hyn gynnwys y tudalennau rydych chi wedi ymweld â nhw, gwybodaeth am y ddyfais neu'r porwr rydych chi'n ei ddefnyddio ac unrhyw wallau y daethoch chi ar eu traws. Nid ydym yn defnyddio cwcis i gael unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch pan fyddwch yn ymweld ag un o'i safleoedd. Gallwch rwystro neu gyfyngu ar y cwcis a osodir gan wefan UCM o fewn gosodiadau eich porwr; fodd bynnag gallai gwneud hynny effeithio ar ymarferoldeb y wefan, er y gallwch barhau i ddefnyddio'r rhan fwyaf o nodweddion y wefan.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am gwcis, gallwch gael manylion ychwanegol gan www.aboutcookies.org Mae'r wefan hon yn cynnig canllaw cynhwysfawr ar gwcis a sut i'w tynnu oddi ar eich cyfrifiadur.
Mae cwcis naill ai’n:
Cwcis sesiwn: dim ond yn ystod eich sesiwn ar y we y caiff y rhain eu storio ar eich dyfais, a chânt eu dileu’n awtomatig pan fyddwch yn cau eich porwr gwe – maent fel arfer yn storio ID dienw ar gyfer sesiwn sy’n eich galluogi i bori gwefan heb orfod mewngofnodi i bob tudalen, ond nid ydynt yn casglu unrhyw ddata personol o'ch dyfais.
NEU:
Cwcis parhaus: mae cwci parhaus yn cael ei storio fel ffeil fach ar eich dyfais ac mae'n aros yno pan fyddwch chi'n cau eich porwr gwe. Gall y wefan a’i creodd ddarllen y cwci pan fyddwch yn dychwelyd i’r wefan.
Gellir categoreiddio cwcis fel a ganlyn:
Cwcis sy'n hollol angenrheidiol: mae'r cwcis hyn yn hanfodol i'ch galluogi i ddefnyddio'r wefan hon yn effeithiol. Heb y cwcis hyn, ni ellir darparu'r gwasanaethau sydd ar gael i chi ar ein gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth amdanoch y gellid ei defnyddio ar gyfer marchnata neu olrhain gwefannau eraill yr ydych wedi ymweld â nhw ar y rhyngrwyd.
Cwcis perfformiad: mae'r cwcis hyn yn ein galluogi i fonitro a gwella perfformiad ein gwefan. Er enghraifft, maent yn ein galluogi i gyfrif ymweliadau, nodi ffynonellau traffig i'n gwefan, a gweld pa rannau o'r wefan sydd fwyaf poblogaidd. Rydym yn defnyddio cwcis perfformiad parhaus ar gyfer Google Analytics.
Cwcis ymarferoldeb: mae'r cwcis hyn yn caniatáu i'n gwefan gofio dewisiadau a wnewch a darparu nodweddion gwell. Mae'r wybodaeth y mae cwcis ymarferoldeb yn ei chasglu yn ddienw; ni all cwcis ymarferoldeb eich adnabod.
Cwcis parti cyntaf a thrydydd parti: Mae cwcis parti cyntaf yn gwcis a osodir gan wefan ei hun. Cwcis trydydd parti yw cwcis sy'n cael eu gosod ar wefannau gan safleoedd heblaw'r wefan ei hun, e.e. lle mae gwefan yn hysbysebu ar ran trydydd parti neu'n defnyddio picselau o wefannau fel Facebook. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i ddangos cynnwys mwy perthnasol i chi pan fyddwch chi'n ymweld â'u gwefannau.
Defnyddir cwcis Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i'n helpu i wella'r wefan. Mae Google Analytics yn ein galluogi i gynnig gwasanaeth gwell i chi mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys darparu mwy o'r math o ddeunydd y mae defnyddwyr y wefan yn ei gyrchu fwyaf a gwella'r amser y mae'n ei gymryd i dudalennau gwefan lwytho. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw; ni allwch gael eich adnabod yn bersonol o'r data a gesglir gan Google Analytics.
Gallwch ddewis peidio â chael eich olrhain gan Google Analytics ar draws pob gwefan, drwy fynd i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout
Mae'r wybodaeth ddadansoddol hon yn cael ei phrosesu mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un, ac rydym yn addo na fyddwn byth yn rhannu eich gwybodaeth amdanoch chi ag unrhyw drydydd parti, gan gynnwys Google.
Mae Hotjar yn ein galluogi i archwilio sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu â'n gwefan, ac rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i wella profiad y defnyddiwr yn gyson a chael adborth gan ddefnyddwyr. Gallwch ddewis peidio â chael eich olrhain gan y feddalwedd hon trwy alluogi'r nodwedd 'Peidiwch ag Olrhain' yn eich porwr gwe. Am fwy o wybodaeth, gweler Polisi Preifatrwydd Hotjar a Thudalennau optio allan.