Mae’r Cynllun Gwaith yn fap ymarferol o’r hyn y bydd UCMC yn ei wneud yn 2012-13. Mae’r gwahanol ddarnau o waith yn seiliedig ar y polisïau a basiwyd gan undebau myfyrwyr oedd yn bresennol yng Nghynhadledd Wanwyn Cymru, ynghyd â maniffestos swyddogion etholedig UCM Cymru.
Darllenwch y Cynllun Gwaith (pdf), a gyflwynwyd i undebau myfyrwyr sydd mewn aelodaeth yn Y Talwrn ar 15 Awst.
Cyflwynodd UCMC y Cynllun Gwaith fel rhan o’i Gynllun adfywio i gynyddu mewnbwn, cyfranogiad a thryloywedd rhwng y mudiad canolog a’r undebau myfyrwyr hynny sydd mewn aelodaeth.
‘Sgrifennwyd y Cynllun Gwaith gan swyddogion llawn-amser a staff yn ystod Gorffennaf ac Awst. Yn Y Talwrn, sy’n ddigwyddiad newydd, ‘roedd gan swyddogion myfyrwyr gyfle i gyfrannu eu syniadau ynglyn â sut y gellir gweithredu’r holl ddarnau o waith er mwyn creu’r effaith orau.
Bydd UCMC yn parhau i ymgynghori ag aelodau gydol yr hydref, gan gynnal gweithdai’n benodol ar gyfer colegau addysg bellach. Nid yw’r dyddiadau ar gyfer y digwyddadau hynny wedi cael eu gosod hyd yma.
Caiff y Cynllun Gwaith ei drafod ymhellach yng Nghynhadledd Maes newydd UCM Cymru, sy’n disodli’r Cyngor Hydref traddodiadol. Cynhelir y Gynhadledd ym Mhrifysgol Glyndwr ar ddydd Mercher 14 Tachwedd 2012.
I gynnig mewnbwn ar unrhyw ddarn o waith sy’n ffurfio’r Cynllun, mae croeso i chi gysylltu â Chyfarwyddwr UCMC Hannah Pudner