Yn dal i gael anhawster gyda chynlluniau ffioedd? Eisiau gwybod sut y gall eich prifysgol ehangu mynediad? A beth mae’r holl son am uno sefydliadau yn ei olygu?
Mae UCM Cymru’n lawnsio cyfres o weithdai di-dâl ar gyfer staff a swyddogion yn yr undebau myfyrwyr hynny sydd mewn aelodaeth.
Bydd pob un o’r digwyddiadau un-dydd yma’n sesiwn ddwys o drafod a rhannu ar fater polisi penodol. Mae’r gyfres yn ymarferol ei ffocws gyda’r nod o:
-
gynorthwyo eich gwaith o fewn i’ch hundebau
-
annog trafodaeth ar draws y mudiad
-
gwneud y gorau o’ch mewnbwn i gynllun gwaith UCMC yn ystod y flwyddyn sydd i ddod
Gweithdy Polisi #1: Cynlluniau Ffioedd (4 Ebrill 11am - 4pm)
Bydd staff a myfyrwyr yn trafod pam fod gennym ni gynlluniau ffioedd, a sut y byddai un effeithiol yn edrych, yn ogystal â ffyrdd y gall undebau fynd ati i gyfrannu at ddatblygiad cynlluniau ffioedd. Bydd cyfarwyddwr UCMC Hannah Pudner a swyddog polisi UCM DU Alan Roberts yn arwain y gweithdy.
Cynhelir y gweithdy yn swyddfeydd UCM Cymru, 2il Lawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL.
Mae lleodd yn gyfyngedig. Dim ond dau gynrychiolydd o bob undeb gaiff fynychu’r digwyddiad. I gofrestru, e-bostiwch Hannah.Pudner@nus-wales.org.uk erbyn 5pm dydd Mawrth 27 Mawrth.