
Mae UCM Cymru’n gwahodd gwelliannau i’r Cynllun Gwaith – y cynllun sy’n seiliedig ar bolisi, maniffestos swyddogion llawn-amser, prosiectau a ariennir yn allanol a materion pwysig eraill sy’n berthnasol i’n myfyrwyr.
Adolygwyd y Cynllun Gwaith ar sail adborth gan gynrychiolwyr yn y Talwrn yn Awst.
Darllenwch y Cynllun Gwaith wedi ei adolygu.
Bydd cynrychiolwyr i Gynhadledd Maes UCM Cymru (dydd Mercher 14 Tachwedd) yn ystyried y gwelliannau, a bydd cynrychiolwyr sydd â’r hawl i bleidleisio yn pleidleisio i dderbyn neu wrthod y newidiadau i’r Cynllun Gwaith.
Caiff unrhyw fyfyriwr sy’n perthyn i undeb myfyrwyr sydd mewn aelodaeth yng Nghymru gyflwyno gwelliannau. Dim ond cynrychiolwyr sydd â phleidlais yng Nghynhadledd Maes UCM Cymru gaiff benderfynu derbyn neu wrthod y newidiadau hyn.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw 5pm dydd Gwener 2 Tachwedd.
Gallwch lawrlwytho ffurflen welliannau a’r arweiniad i’w chwblhau.
Mae’n bosibl y caiff gwlliannau cyffelyb eu cyfuno i ffurfio un gwelliant i’w ystyied yn y gynhadledd.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â Phennaeth Dayblygiad yr Aelodaeth Emily Cannon, Emily.Cannon@nus-wales.org.uk.