
Etholodd myfyrwyr croenddu Cymru arweinydd newydd ar gyfer eu hymgyrch, ac aethant ati i osod polisi.
Etholwyd Abdul-Azim Ahmed, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor, yn Swyddog Myfyrwyr Croenddu UCM Cymru ar gyfer 2012-13. Bu naw o gynrychiolwyr o brifysgolion Abertawe, Met Abertawe, Morgannwg a Bangor, ynghyd â Coleg Caerdydd a’r Fro, yn pleidleisio yn yr etholiadau.
Gallwch wrando ar Abdul-Azim yn siarad yngyn â’i amcanion ar gyfer ei flwyddyn yn y swydd:
Pasiodd y cynrychiolwyr bob un o’r pum cynnig a ddaeth ger bron, a fydd yn:
-
Gweithio i hyrwyddo Mis Hanes Croenddu mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch a’u hundebau.
-
Ymuno â’r mudiad gwrth-ffasgiaeth yng Nghymru.
-
Cadarnhau cefnogaeth i addysg ddi-dâl.
-
Cyflwyno hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer myfyrwyr Croenddu i’w helpu i ymgeisio mewn etholiadau yn undebau myfyrwyr Cymru.
-
Gwneud gwrth-hiliaeth yn flaenoriaeth, gan gynnwys ymgyrch Caru Cerddoriaeth, Casáu Hiliaeth.
Cyflwynodd y Swyddog Myfyrwyr Croenddu presennol, Zahid Raja, adroddiad ar ei waith gydol y flwyddyn, oedd yn cynnwys:
-
Lawnsio Caru Cerddoriaeth, Casáu Hiliaeth Cymru, ethol grwp llywio yn cynnwys myfyrwyr a swyddogion sabathol yng Nghymru.
-
Comisiynu creu set-arfau Un Gymdeithas, Sawl Diwylliant.
-
Trefnu gwrthdystiad yn erbyn mudiad ‘Prydain yn Gyntaf’, sef carfan adain dde sydd wedi ymwahanu rhag y BNP.
Bu’r cynrychiolwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdy lle ‘roedd gofyn iddynt fynd drwy’r broses o ymgyrchu ar gyfer cael eu hethol i swyddi yn eu hundebau myfyrwyr eu hunain. Ynghyd â’r ymarferiad hwn, cafwyd syniadau Raja ei hun ar sut y gall myfyrwyr greu fideos ymgyrchu blaengar sy’n mynd i gyrraedd cynulleidfa eang