
Daeth myfyrwyr Cymraeg o bob rhan o’r wlad at ei gilydd i drafod dyfodol yr iaith mewn addysg, gosod polisi ac ethol arweinwyr newydd.
Etholwyd Adam Jones o Brifysgol Aberystwyth yn Swyddog Iaith Gymraeg UCM Cymru ar gyfer 2012-13. Fe’i hetholwyd gan bymtheg o gynrychiolwyr o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe fel olynydd i’r swyddog presennol, Mair Rowlands.
Hefyd pasiwyd cynigion oedd yn mynd i’r afael â’r materion canlynol:
-
Yr angen am gynrychiolaeth i fyfyrwyr ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn ogystal â’r angen i Swyddog yr Iaith Gymraeg gyfarfod yn rheolaidd gyda chynrychiolwyr allweddol o’r CCC. Penderfynwyd hefyd y dylai cynrychiolwyr o’r CCC fod yn bresennol yng nghynadleddau UCMC.
-
Yr angen i swyddogion sabathol mewn undebau myfyrwyr gael eu hyfforddi ar faterion sy’n perthyn i’r iaith Gymraeg.
-
Yr angen i Undebau Myfyrwyr ddarparu mwy o gefnogaeth i’r undebau Cymraeg sy’n bodoli eisoes, yn ogystal ag arweiniad a chanllawiau ar gyfer sefydlu undebau Cymraeg o’r dechrau.
-
Cadarnhau hawliau myfyrwyr Cymraeg i gyflwyno gwaith yn y Gymraeg, ynghyd ag addewid i godi ymwybyddiaeth o hyn ymhlith myfyrwyr.
-
Hefyd cadarnhawyd cyfansoddiad newydd Ymgyrch Iaith Gymraeg UCMC, a basiwyd yn gyntaf yn y digwyddiad hwn yn 2011.
Gallwch wrando ar y Swyddog Iaith Gymraeg presennol, Mair Rowlands, yn siarad ynglyn â’r diwrnod.
Yn ystod y sesiynau a gynhwliwyd yn y prynhawn, trafodwyd y cymhlethdodau a’r gwahaniaethau rhwng y pedair prifysgol oedd wedi eu cynrychioli. Nodwyd fod prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn fwy blaengar yn eu cynrychiolaeth o fyfyrwyr Cymraeg, tra bod prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn dangos llai o ymrwymiad i fyfyrwyr Cymraeg.
Bu Dafydd Trystan, uwch swyddog yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn annerch y gynhadledd. Bu’n trafod argaeledd a’r galw am gyrsiau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg, ymhlith pethau eraill.
Etholwyd pedwar o gynrychiolwyr i Bwyllgor Iaith Gymraeg UCMC ar gyfer 2012-13: Guto Gwilym (Prifysgol Bangor); Owain Harries (Prifysgol Abertawe); Gerallt Robert (Prifysgol Caerdydd); Carys Ann Thomas (Prifysgol Aberystwyth).
Etholwyd Jacob Ellis o Brifysgol Aberystwyth yn swyddog Llywio ar gyfer Ymgyrch Iaith Gymraeg UCMC.
Cynhaliwyd y gynhadledd yn adeilad Uno’r Undeb yng Nghaerdydd ar 30 Ebrill 2012. Dyma’r gyntaf o bump o gynadleddau rhyddhad UCMC yr wythnos hon.