
Mae Llywodraeth Cymru wedi anfon llythyr agored at sefydliadau addysg uwch yng Nghymru er mwyn hyrwyddo potensial ein rhaglenni amgylcheddol.
Darllenwch y llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews a Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy, John Griffiths
Mae pump o undebau myfyrwyr yng Nghymru eisoes yn cymryd rhan yn y cynllun achrediad amgylcheddol Effaith Gwyrdd, sef undebau prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Y Drindod Dewi Sant ac Abertawe. Mae un o brifysgolion Cymru, sef Abertawe, yn cyfranogi yn y rhaglen.
Mae Effaith Gwrydd yn croesawu cyfranogwyr newydd yn y cynllun. Mae cofrestru ar gyfer Effaith Gwyrdd yn cau ar ddydd Gwener 12 Hydref. Gall undebau myfyrwyr gysylltu â Joanna Romanowicz am fwy o wybodaeth.
Gall prifysgolion a sefydliadau eraill ymuno ar unrhyw adeg. I ganfod mwy, ewch i wefan Effaith Gwyrdd neu cysylltwch â Jo Kemp.
Mae Myfyrwyr yn Diffodd yn rhaglen arall sy’n ymgysylltu myfyrwyr mewn cystadleuaeth rhwng neuaddau preswyl i arbed ynni. Mae’r elfen gystadleuol yn arwain at arbedion mewn ynni ac yn hyrwyddo arferion da. Prifysgol Caerdydd yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n cymryd rhan eleni.
Mae cyfranogiad yng nghynllun Myfyrwyr yn Diffodd wedi cau am eleni. I dysgu mwy am ymuno â rhaglen y flwyddyn nesaf, ewch i wefan Myfyrwyr yn Diffodd.