
Cred UCM Cymru fod y penderfyniad arfaethedig i ail-ddosbarthu myfyrwyr o 2013/14 mewn ymateb i gyflwyno system Craidd ac Ymylol yn Lloegr.
‘Rydym yn croesawu’r ffaith fod y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews wedi gwrthod system elitaidd AAB debyg i’r un a orfodwyd yn Lloegr. Serch hynny, ‘rydym yn bryderus y gallai arwain at newidiadau anfwriadol ym mhatrwm y ddarpariaeth o AU ledled Cymru.
Dywedodd Luke Young, Llywydd UCM Cymru:
"Mae hon yn system sy’n deillio o bolisi a luniwyd yn frysiog yn Lloegr, sydd wedi gorfodi’r Cyngor Cyllido i weithredu i amddiffyn ein prifysgolion uchel eu parch ledled y byd. Mae’r obsesiwn gyda gorfodi ymddangosiad o farchnad mewn addysg uwch yn cael effaith amlwg dros y ffin yng Nghymru.
"Tra bod system Craidd ac Ymylol yng Nghymru i’w groesawu o gymharu â model elitaidd AAB gan Lywodraeth San Steffan, buaswn yn annog cymryd gofal nad yw hyn yn gosod straen ar y ddarpariaeth leol o leoedd mewn sefydliadau mewn rhai rhannau o Gymru o ganlyniad i’r dull o ail-ddosbarthu.
"Caiff llwyddiant y system hon ei beirniadu ar sail gallu prifysgolion i amddiffyn darpariaeth leol, i ffynnu ar lefel genedlaethol, a lleihau’r crocbris sy’n rhaid i fyfyrwyr dalu mewn ffioedd ar hyn o bryd.
"Ar y cyfan, caiff niferoedd myfyrwyr eu hamddiffyn a bydd cyllido cyffredinol ar gyfer prifysgolion yn cynyddu ychydig gydag amddiffyniad arbennig ar gyfer pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Felly tra bod is-ganghellorion wrthi’n eiddgar yn gweithio allan eu sefyllfa ariannol i weld sut y gall eu sefydliadau sicrhau’r canlyniad gorau, ’rydym yn gobeithio fod eu hymrwymiad i feysydd allweddol megis mynediad teg, fel maent wedi addo yn eu cynlluniau ar gyfer fioedd, o’r un safon â’u mathemateg."