Dylai myfyrwyr AB sy’n dymuno dysgu sut i greu newid o fewn i’w colegau ddod i’r digwydiadau FE SkillSgiliau AB newydd.
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Mawrth 23 Hydref yng Ngholeg Pen-y-Bont, a chynhelir yn union yr un digwyddiad yng Nghanlofan Gynadledda Coleg Llandrillo, Llandrillo yn Rhos, ar ddydd Iau 25 Hydref.
Cofrestrwch ar gyfer FE SkillSgiliau AB De Cymru ar 23 Hydref
Cofrestrwch ar gyfer FE SkillSgiliau AB Gogledd Cymru ar 25 Hydref
Os ydych yn gynrychiolydd dosbarth, yn aelod o gyngor y myfyrwyr neu’n fyfyriwr lywodraethwr, bydd y digwyddiad hwn yn eich helpu i ddysgu sgiliau gwerthfawr. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn dysgu sut i wella’r ffordd maent yn mynd ati i gynrychioli llais myfyrwyr a newid eu colegau er gwell.
Mae cofrestru’n agor heddiw (1 Hydref) am 10am, ac yn cau ar ddydd Llun 15 Hydref am 5pm.
Mae croeso i staff colegau fynychu’r digwyddiad i arsylwi a rhwydweithio.
Codir tâl o £5 ar bawb sy’n mynychu’r digwyddiad i dalu am ginio. Serch hynny, ni fydd rhaid i chi dalu hyn wrth gofrestru ar-lein. Byddwn yn anfonebu’r colegau a nodir gan fyfyrwyr a staff gynted y bydd cofrestru’n cau ar 15 Hydref. Bydd myfyrwyr a staff sy’n cofrestru, ond ddim yn mynychu’r digwyddiad, yn dal i orfod talu drwy eu coleg.