Yn dilyn y cynnig "UCM Cymru - Mae wedi Torri, Gadewch i ni ei Drwsio" a basiwyd yng Nghynhadledd UCM Cymru 2011, cynhaliwyd adolygiad o brif ddigwyddiadau UCMC gyda'r bwriad o:
-
“greu mwy o le o fewn i'r flwyddyn i weithio'n effeithiol ar ddatblygiad polisi"
-
darparu strwythur sy'n galluogi UCM Cymru i fod yn fwy llwyddiannus o ran ffocysu ar yr aelodaeth
-
gallu ymateb yn well i'r cyfleoedd a gynigir i fyfyrwyr sy'n astudio mewn gwlad sydd â phwerau datganoledig ar gyfer addysg a meysydd eraill
Mae'r ddogfen ymgynghorol isod yn cynnwys argymhellion i'r aelodaeth i'w hystyried, ymgynghori a gwneud sylwadau arnynt. Caiff yr argymhellion hyn wedyn eu cyflwyno i Gynhadledd Cymru ym mis Mawrth. Os hoffech chi leisio eich barn ar yr argymhellion hyn, mae croeso i chi fy e-bostio ar conference@nus-wales.org.uk gan ei farcio â'r teitl "Adfywiad Cymru".
Dogfen Adfywiad UCM Cymru