
gan Newyddion BBC Cymru
Byddai prifysgol newydd ar gyfer de–ddwyrain Cymru’n cael ei chreu dan argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol addysg uwch.
Byddai’r sefydliad yn cael ei ffurfio drwy uno Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd. Byddant nawr yn ymgynghori ar y cynlluniau, a groesawyd gan Undeb y Prifysgiolion a’r Colegau (UCU) Cymru. Dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ei fod eisiau prifysgolion “cryf”.
Datgelodd Mr Andrews ei gynlluniau ar ôl i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ddarparu cyngor ar strwythur addysg uwch yng Nghymru ynghynt eleni. Hefyd derbyniodd Llywodraeth Cymru dros 400 o ymatebion gan y rheiny sydd â buddiannau yn y sector yn dilyn ei argymhellion. Ar ôl ystyried y materion a godwyd, dywedodd Mr Andrews ei fod yn derbyn argymhellion CCAUC:
-
Dylai Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd uno.
-
Dylai Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe barhau i ddatblygu eu potensial sylweddol ar gyfer ymchwil a chydweithredu.
-
Dylai Aberystwyth a Bangor barhau i gryfhau eu perthynas strategol, er na fydd disgwyl iddynt i uno ar hyn o bryd.
-
Dylai Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe uno yn ôl y cynllun sydd eisoes ar y gweill, yn ogystal â bwrw ymlaen â’u cynllun i uno â Phrifysgol Cymru.
Serch hynny, gwrthododd y Gweinidog yr argymhelliad y dylai Prifysgol Glyndwr symud i mewn i strwythur grwp dan reolaeth Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth. Yn hytrach, awgrymodd gomisiynu adolygiad o’r ddarpariaeth ar gyfer addysg uwch yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
‘Meddwl ar raddfa eang’ Dywedodd Mr Andrews: “Rydym wedi gwneud ymrwymiad i nifer lai o brifysgolion cryfach, sy’n fwy cynaliadwy a sydd mewn gwell sefyllfa i gwrdd ag anghenion dysgwyr ac economi Cymru “Mae hefyd yn hanfodol bwysig fod Cymru’n meddwl ar raddfa eang parthed ag ymchwil er mwyn sicrhau na chaiff ein sefyldiadau eu gadael ar ôl.” Dywedodd fod adroddiad CCAUC yn cyflwyno “achos creddwy” dros uno sefyldiadau yn ne-ddwyrain Cymru er mwyn darparu sefydliad “cryf a chystadleuol”.
Dywedodd y bydd gan y brifysgol newydd yn yr rhanbarth gampysau ar draws y Cymoedd, Caerdydd a Chasnewydd, fel sy’n bodoli ar hyn o bryd. Mae Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) Cymru wedi croesawu’r brifysgol newydd arfaethedig ar gyfer de-ddwyrain Cymru, gan ddweud y byddai’n cynnig mwy o ddewis i fyfyrwyr, yn ogystal â sicrwydd swyddi a gwell rhagolygon o ran gyrfaoedd.
“Cred UCU Cymru y bydd sefydlu prifysgolion newydd yn darparu sefydlogrwydd ar gyfer y sector addysg uwch yn ne-ddwyrain Cymru,” meddai Lleu Williams o UCU Cymru.
Ond rhybuddiodd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC) yn erbyn y perygl o wrthdaro rhwng is-ganghellorion prifysgolion yn y de-ddwyrain a Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn croesawu eglurdeb y Gweinidog o ran ei fwriad, ond tra bo’r sefydliadau yn cyd-drafod y manylion, ’rydym yn rhybuddio yn erbyn colli golwg o’r hyn sy’n allweddol bwysig – y myfyrwyr unigol a gaiff eu heffeithio gan yr argymhellion hyn, “meddai Llywydd UCMC, Luke Young.
“Yr hyn ‘rydym ei angen yw argymhellion eglur sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n sicrhau fod y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael ei amddiffyn a bod profiad myfyrwyr yn cael ei wella.
“Mae angen i fyfyrwyr fod yn bartneriaid llawn yn y broses hon.”
‘Gwella cyfleoedd’ Dywedodd Dr Peter Noyes, is-ganghellor Prifysgol Cymru, Casnewydd, ei bod y hanfodol bwysig fod trafodaethau’n dechrau i sefydlu beth yn hollol fydd ffurf y sefydliad newydd yn ne-ddwyrain Cymru.
“Bydd hyn yn ein caniatáu i gadarnhau y bydd o gymorth i ni yn ein hamcan i wella cyfleoedd ar gyfer cymunedau Gwent.” Ychwanegodd.
Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Barbara Wilding, y byddai eu bwrdd llywodraethwyr yn ystyried y cyhoeddiad yn eu cyfarfod nesaf ac y “byddant yn ymateb i’r ymgynghoriad yn unol â’r amserlen arfaethedig a amlinellwyd gan y Gweinidog.”
‘Roedd Metropolitan Caerdydd, sef Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd gynt, eisoes wedi dweud nad oeddent eisiau bod yn rhan o brifysgol wedi ei huno yn ne-ddwyrain Cymru.
Dywedodd yr Athro Michael Scott, is-ganghellor a phrif weithredwr Prifysgol Glyndwr: “Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag unrhyw broses yn y dyfodol sy’n edrych ar y darlun mawr yng ngogledd Cymru, a chredwn y bydd yn cynnig cyfle i ni adeiladu ar yr hyn ‘rydym wedi ei gyflawni hyd yma, a mynd ymhellach fyth mewn dangos ein hymrwymiad i arwain twf economaidd fel prifysgol gref, annibynnol ac i gynyddu’r cyfleoedd.”