
Gan Gareth Evans, 'WalesOnline'
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn ei bolisi ffioedd £1bn yn dilyn y ffigurau diweddaraf a ddatgelodd gwymp o 17% yn y nifer o fyfyrwyr o Loegr sy’n ymgeisio i astudio yng Nghymru
Mae llif ffafriol o fyfyrwyr dros-y-ffin yn hanfodol bwysig i’r cymorthdal costus, a fwriadwyd i amddiffyn myfyrwyr Cymreig rhag cynnydd o £6,000 yng nghost eu haddysg prifysgol o Fedi’r flwyddyn nesaf.
Ond mae sicrhau fod myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn parhau i dalu £3,400 y flwyddyn y ddibynnol ar fyfyrwyr o Loegr yn talu’r ffioedd llawn.
Mae’r ffigurau sydd wedi cael eu gweithio allan yn caniatáu ar gyfer tua 24,000 o ddysgwyr o Loegr, sydd heb gymorthdal gan y llywodraeth, yn astudio yng Nghymru a 16,000 o israddedigion o Gymru yn astudio dros y ffin.
Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Angela Burns fod y ffigurau’n “ergyd” i bolisi ffioedd dysgu Llafur.
“Mae hyn yn dystiolaeth pellach mai ‘gimic’ cyn yr etholiad oedd polisi ffioedd dysgu Llafur, a’u bod heb weithio allan yn fanwl faint fyddai hyn yn ei gostio,” Meddai.
“Mae angen i weinidogion ail-feddwl ynglyn â’u polisi er mwyn sicrhau fod prifysgolion Cymru yn cael eu cyllido’n effeithiol ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau nad yw ein sector addysg uwch yn cwympo ymhellach ar ei hôl hi.”
Mae ffigurau diweddaraf UCAS yn dangos fod y nifer o ddysgwyr sy’n byw yn Lloegr sydd wedi ymgeisio am le mewn sefydliad AU yng Nghymru wedi disgyn o 17.4% - i lawr o 16,486 yn 2011 i 13,622 ar gyfer 2012.
Mae’r nifer o fyfyrwyr o Gymru sy’n dewis astudio yn Lloegr, serch hynny, wedi disgyn o 5.3%.
Mae’r bwlch wedi cynyddu ers y mis diwethaf, pan ‘roedd prifysgolion yng Nghymru wedi denu 13.4% yn llai o geisiadau o Loegr, ac ‘roedd y nifer o geisiadau o Gymru ar gyfer prifysgolion yn Lloegr i lawr o 4.3%.
Rhybuddiodd Luke Young, Llywydd UCM Cymru, yn erbyn “codi bwganod” a galwodd am eglurdeb parthed â’r dewisiadau sydd ar gael i fyfyrwyr.
“Tra bod y ffigurau yn fater o bryder, mae’n bwysig peidio codi bwganod parthed â chynaliadwyedd y grant ffi dysgu a gaiff ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru,” meddai.
“Mae’n glir fod y newidiadau i gyllido addysg uwch yn Lloegr a Chymru y dylanwadu ar ymddygiad myfyrwyr. Nid ydym eto’n gwybod beth fydd yr effaith llawn.”
Yn gyffredinol, mae’r cwymp o 10.3% mewn ceisiadau am le mewn prifysgol gan fyfyrwyr o Gymru yr isaf o unrhyw un o wledydd y DU.
Yn yr ail ail ddarlun o dueddiadau 2012, ‘roedd yno 5,592 o geisiadau gan fyfyrwyr o Gymru – 642 yn llai na’r ffigur ar gyfer Tachwedd 2011.
Mewn rhannau eraill o’r DU, mae ceisiadau gan fyfyrwyr o Loegr wedi disgyn o 15.2%, yr Alban o 17.1% a Gogledd Iwerddon o 16.9%.
Dywedodd Amanda Wilkinson, cyfarwyddwr corff cynrychioli prifysgolion Addysg Uwch Cymru, y dylid ymdrin yn ofalus â data o’r fath.
“Gan gymryd i ystyriaeth fod yno’n dal i fod saith wythnos cyn y dyddiad cau a osodir gan UCAS ar gyfer ceisadau, buasem yn argymell dal yn ôl ar unrhyw gasgliadau terfynol ynglyn ag effaith ffigurau heddiw,” meddai.
“Mae’r ffigurau yn dangos fod y nifer o ymgeiswyr i lawr ar hyn o bryd, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n bosibl fod hyn yn arwydd ein bod ni’n dychwelyd i lefel ceisiadau 2010, yn dilyn nifer uwch o geisiadau nag a welwyd erioed o’r blaen yn 2011.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn bwysig peidio darllen gormod i mewn i ffigurau cynnal UCAS.
“Bydd y broses ymgeisio yn parhau am beth amser eto, ac mae’n rhy gynnar i ffurfio unrhyw gasgliadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012-13. Gall data cynnar fod yn gamarweiniol o ran y nifer terfynol o ymgeiswyr,” meddai.
“Mae’r cwymp yn y nifer o fyfyrwyr o Loegr sy’n ymgeisio am le i astudio yng Nghymru yn arwydd o duedd cyffredinol tuag i lawr o ran ceisiadau ledled y DU. Mae wastad yn anodd amcangyfrif rhai o’r materion sy’n perthyn i’r llif o fyfyrwyr ar draws-y-ffin, ond mae Llywodraeth Cymru wedi addo sicrhau nad yw myfyrwyr sy’n wreiddiol o Gymru yn talu ffioedd uwch ble bynnag y byddant yn astudio, ac ‘rydym yn hyderus y gallwn ni gyflawni hynny.”