Heddiw yw diwrnod cyntaf mis o ddigwyddiadau gweithredaeth UCM Cymru ar gyfer Tachwedd. Mae'n gyfnod cyffous i ni gael dechrau adeiladu ac ymgysylltu â'n harweinwyr myfyrwyr yng Nghymru. Mae gennym 4 prif ddigwyddiad yng Nghymru gydol y mis hwn i ysbrydoli newid yn ein hundebau myfyrwyr drwy drafodaethau, gweithdai ac areithiau.
Bydd y diwrnod yn ffocysu ar ddedfwriaeth tai a safonau, ynghyd â phrofiadau myfyrwyr o ran llety, ac 'rydym wedi creu Cardiau Cyngor Tai yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n mynychu'r digwyddiad; dyma hefyd ble byddwn yn lawnsio Arolwg Tai UCMC.
Bydd y rhain yn ddigwydiadau hyfforddiant ac ymgyrch ar y materion hynny sy'n perthyn i hawliau menywod. Gallwn bellach gadarnhau y bydd Jane Hutt AC (Gweinidog dros Gyllid ac Arweinydd y Ty ar gyfer Llywodraeth Cymru) yn un o'r siaradwyr gwadd yn y rali.
Bydd hwn yn gyfle i arweinwyr myfyrwyr i drafod materion sy'n effeithio ar AB ac AU yng Nghymru ac 'rydym yn edrych ymlaen at y drafodaeth y byddwn yn ei chynnal yn ystod y digwyddiad hwn - "Gweithredaeth yn y Byd Go Iawn" gyda phanel a fydd yn cynnwys aelodau blaenllaw o'r sector addysg yng Nghymru, dan gaderiyddiaeth Joanna Simpson - Gohebydd Addysg, ITV Wales
Bydd y diwrnod hwn yn gyfle i arweinwyr myfyrwyr LHDT i ddatblygu a rhannu gyda'u cyfoedion mewn amgylchedd diogel ac ysbrydoli datblygiad ymgyrchoedd pellach o fewn i'r mudiad; bydd yno weithdai ar Siarad Cyhoeddus, Iechyd LHDT a Bod yn Draws mewn Undeb yng Nghymru.
Er fod y diwgyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Llundain, hoffem annog cynifer o bobl â phosibl i fynychu'r digwyddiad gwych yma, gan y bydd y gynhadledd weithredaeth myfyrwyr fwyaf erioed i gael ei chynnal yn y DU - a fydd yn cynnwys gweithdai, areithiau, dosbarthiadau-meistr a thrafodaethau, gyda rali dorfol i orffen y diwrnod. Ni chodir tâl am fynychu'r digwyddiad ac mae'n agored i fyfyrwyr oll, ond 'rydym yn gofyn i unrhyw fyfyrwyr sy'n bwriadu mynychu'r digwyddiad i gofrestru drwy ganolbwynt ar-lein ar NUS Connect erbyn dydd Llun 14 Tachwedd. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
campaigns@nus.org.uk neu
Hannah.charnock@nus.org.uk
'Rydym yn hyderus, drwy ffocysu ar waith da ein harweinwyr myfyrwyr, a rhoddi iddynt y cyfle i rannu eu gwaith a'u gweledigaeth, y bydd yn ysbrydoli dyfodol tirwedd myfyrwyr yng Nghymru."