
Mae UCM Cymru'n ffarwelio â'n Rheolwr Polisi a Chysylltiadau Cyhoeddus, Sophie Buchaillard-Davies, sy'n ein gadael heddiw i ddechrau yn ei swydd newydd fel rheolwr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dros yr ychydig blynyddoedd diwethaf, mae Sophie wedi bod yng nghanol y bwrlwm, wrth i UCM Cymru fynd ati i gynrychioli myfyrwyr i'r llywodraeth a sicrhau ambell i fuddugoliaeth sylweddol ar ran myfyrwyr yng Nghymru. 'Rydym yn dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol, ac 'rydym yn hyderus y bydd hi'n parhau i fod yn gyfaill oes i UCMC.
Pob hwyl oddi wrth Dîm Cymru