
Ar Dachwedd 17eg, bydd UCMC yn cynnal eu Cyngor ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o fis o ddigwyddiadau GweithredWyl.
Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau a thafodaethau grwp, gyda phwyslais ar Weithredaeth, ac mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd yno yn ystod y diwrnod drafodaeth – “Gweithredaeth a’r Byd Go Iawn” gyda phanel a fydd yn cynnwys cymeriadau amlwg o’r sector addysg yng Nghymru – dan gadeiryddiaeth Joanna Simpson – Gohebydd Addysg, ITV Wales
Yn ystod y drafodaeth fywiog hon, ac yng nghanol y cyfnod mwyaf cythryblus mewn addysg yng Nghymru ers tro, bydd y panel yn trafod gweithredaeth a sut i ddatblygu a chreu gweithredu effeithiol.
Mae Cyngor UCMC yn gyfle i arweinwyr myfyrwyr ddatblygu, rhannu a hyrwyddo arferion gorau mewn ymgyrchu ymysg undebau myfyrwyr, yn ogystal â thrafod materion sy’n effeithio ar Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru, gyda’u cyfoedion; byddwn yn cynnwys arddangosfa o ymgyrchoedd llwyddiannus a gynhaliwyd yn Undebau Myfyrwyr Cymru er mwyn dwyn sylw at y gwaith da sy’n cael ei wneud, ac i ysbrydoli datblygiad ymgyrchoedd pellach o fewn i’r mudiad.