
Siarter Myfyrwyr
Bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn lawnsio Cylchlythyr Siarter Myfyrwyr ym Medi sy’n rhoddi arweiniad i sefydliadau ar lefelau disgwyledig o arferion da parthed ag adolygu Siarter y Myfyrwyr yn eich sefydliad. Lluniwyd y ddogfen hon ar y cyd gan UCMC, Addysg Uwch Cymru a’r Cyngor Cyllido.
Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Llanisien – Dydd Gwener 21ain Hydref 2011 2:00 pm – 3:30 pm
Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn gyfle i ystyried datblydiadau diweddar ym myd addysg uwch yng Nghymru a thrafod y materion bydd yn effeithio prifysgolion yng Nghymru yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn lansio ein hadroddiad blynyddol yn y cyfarfod.
Bydd cyfarfod arall at Prifysgol Aberystwyth ar y'r 8fed o Rhagfyr
Academi Addysg Uwch – Cynhadledd Cyfeiriadau at y Dyfodol
Fel rhan o brosiect dwy-flynedd ar ddyfodol addysg yng Nghymru, mae’r Academi Addysg Uwch yn rhedeg tair cainc o waith ar:
• Fyfyrwyr fel partneriaid
• Dysgu mewn cyflogaeth
• Dysgu er mwyn cyflogaeth
Byddwn yn darparuastudiaehau o achosion ar gyfer y grwp dysgu mewn cyflogaeth erbyn Tachwedd 2011 felly os oes gennych chi unrhyw weithgareddau yn eich prifysgolion sydd yn eich barn chi’n enghreifftiau da o ddysgu mewn cyflogaeth, profiad gwaith, cyflogadwyedd a.y.b. yna mae croeso i chi ddod i gysylltiad â ni.
Bydd hyn yn arwain at gynhadledd ar 26ain Ebrill – digwyddiad y gallai rhai o’ch swyddogion
fod â diddordeb mewn ei fynychu. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan: