
Yr wythnos ddiwethaf, croesawodd UCM Cymru ein cyfarwyddwraig newydd, Hannah Pudner, i'r mudiad.
Nid hwn yw tro cyntaf Hannah fel aelod o staff UCM; rhwng 2005 a 2009 bu'n Gydlynydd Adborth Myfyrwyr, fel rhan o'r tîm Addysg ac Ansawdd, yn darparu cyngor a chefnogaeth i undebau ar ffyrdd o ddefnyddio canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) i gryfhau eu hundeb a gwella profiad myfyrwyr. Yn 2009, gadewodd UCM i ymuno â'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch yn Lloegr fel Uwch Gynghorydd Polisi, yn arwain ar sicrwydd ansawdd, gwella ansawdd, gwybodaeth gyhoeddus ar gyfer darpar fyfgyrwyr, yr ACF, ymgysylltiad myfyrwyr, dysgu ar-lein ac Anelu'n Uwch.
Mae Hannah, sy'n wreiddiol o Abertawe, nawr yn dychwelyd i Gymru i ymgymryd â'r swydd hon ac mae wedi ymrywmo i wella gallu UCMC fel mudiad aelodaeth a chynrychiolaeth.
"Rwyf wrth fy modd cael dychwelyd i UCM ac i Gymru - mae'n gyfnod cyffrous i fudiad y myfyrwyr yng Nghymru. Mae yno gryn lawer sydd angen ei wneud i amddiffyn ac ymestyn hawliau myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru, ac 'rwyf yn benderfynol o sicrhau fod UCMC y mudiad aelodaeth ac ymgyrchu gorau y gallwn fod."