
Mewn ymateb i ffigurau a ryddhawyd gan UCAS heddiw. Mae UCM Cymru’n bryderus …
Dywedodd Llywydd UCM Cymru, Luke Young:
“Mae’n siomedig gweld y nifer o ymgeiswyr yn disgyn, gan ein bod ni’n awyddus i weld pawb sydd â’r ddawn a’r uchelgais i fod yn gallu cael mynediad i addysg uwch. Mae’r cwymp parhaus mewn ceisiadau gan fyfyrwyr hyn yn fater o bryder sylweddol, ac yn un sydd angen ein sylw.
Tra bod y ffigurau yn peri pryder i ni, mae’n bwysig nad ydym yn codi bwganod parthed â chynaliadwyedd y grant ar gyfer ffioedd dysgu a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n glir fod y newidiadau i gyllido addysg uwch yn Lloegr a Chymru yn dylanwadu ar ymddygiad myfyrwyr. Nid ydym eto’n gwybod beth yw’r effaith llawn. Yr hyn ‘rydym ei angen yw i’r dewisiadau sydd ar gael i barhau i gael eu bwydo drwodd i ymgeiswyr er mwyn sicrhau fod eu dewisiadau yn cael eu gwneud ar sail ffeithiau cadarn.”