
Bydd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty, Jane Hutt, yn annerch rali myfyrwyr oedd yn gwrthdystio yn erbyn trais yn erbyn menywod.
Dywedodd y Gweinidog:
"Gorymdeithiodd menywod heno, fel y gwnaeth llaweroedd o'u blaenau, i'w gwneud yn eglur nad ar fenywod mai'r bai os ydynt yn cael eu treisio neu'n dioddef ymosodiad. Y dynion sy'n dewis ymosod arnynt sydd ar fai; 'rydym yn ymladd dros ein hawliau sylfaenol, nid dros freintiau."
Mae gan Jane Hutt hanes hir o hyrwyddo materion menywod, a hi oedd cydlynydd cyntaf Cymorth i Fenywod Cymru yn 1978. 'Roedd siaradwyr eraill ar gyfer y digwyddiad yn cynnwys Shahien Taj MBE, Prif Weithredydd Sefydliad Henna a Stephanie Lloyd, Swyddog Menywod UCM Cymru.
'Roedd y rali'n dilyn gorymdaith menywod-yn-unig drwy strydoedd Caerdydd: gwrthdystiad yn erbyn y trais a'r aflonydu sy'n wynebu menywod Cymru'n ddyddiol ar ein strydoedd. Daeth tua chant o fenywod at ei gilydd er gwaetha'r oerfel i wneud safiad a hawlio'r nos yn ôl.
Dywedodd Swyddog Menywod UCM Cymru, Stephanie Lloyd:
"Heno fe ddangoswyd i strydoedd Caerdydd a Chymru gyfan fod gan fenywod yr hawl i gerdded y strydoedd heb ofnau ynglyn â thrais. 'Rwyf yn falch iawn fod myfyrwragedd Cymru wedi arwain yr orymdaith hon, a bod cymaint o fenywod eraill wedi dewis cerdded gyda ni."