
Bydd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty, Jane Hutt, yn annerch rali Hawlio'r Nos yn Ôl UCMC HENO (ddydd Llun 7 Tachwedd) yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Bydd y rali yn dilyn gorymdaith ar gyfer menywod yn unig drwy strydoedd Caerdydd: gwrthdystiad yn ebryn y trais a'r aflonyddu sy'n wynebu menywod Cymru'n ddyddiol ar ein strydoedd.
Mae gan Jane Hutt hanes hir o hyrwyddo materion menywod, a hi oedd cydlynydd cyntaf Cymorth i Fenywod Cymru yn 1978. Mae siaradwyr eraill ar gyfer y digwyddiad yn cynnwys Paula Hardy, Prif Weithredydd Cymorth i Fenywod Cymru; Shahien Taj MBE, Prif Weithredydd Sefydliad Henna a Stephanie Lloyd, Swyddog Menywod UCM Cymru.
Dywedodd Swyddog Menywod UCM Cymru, Stephanie Lloyd:
“Mae hon yn orymdaith o gadernid ymhlith menywod i hawlio strydoedd Cymru'n ôl, i ddangos nad yw trais yn erbyn menywod yn dderbyniol ac y dylai menywod fod yn rhydd i gerdded y stryddoedd wedi nos heb ofnau ynglyn â thrais. Mae menywod wedi bod yn gorymdeithio dan faner Hawlio'r Nos yn Ôl ers 1977, ac 'rydym yn cerdded heddiw am yr union resymau ag y gwnaethant hwy: oherwydd fod menywod yn dal i gael eu treisio, eu camdrin a dioddef ymosodiadau, a chânt eu cyhuddo mai eu bai nhw ydy hynny, oherwydd nad yw menywod yn teimlo'n ddiogel i gerdded wedi nos ac oherwydd fod menywod yn dal i wynebu'r un anawsterau, dim ond am eu bod yn fenywod. 'Rwyf yn falch iawn fod myfyrwragedd Cymru yn arwain y digwyddiad hwn ac yn gwneud safiad mor bendant.”
Bydd yr orymdaith yn dechrau am 6pm o Goleg Cerdd a Drama Cymru (ar gyfer y rheiny sy'n hunan-ddiffinio fel menywod yn unig), gyda rali i ddilyn yn yr un lleoliad am 7.30pm. Mae'r rali'n agored i bawb.