
Heddiw (13 Awst 2011), wnaeth Y Llywodraeth Cymru lansio eu ymgyrch 'Byw Heb Ofn' – gyrfa o Llywodraeth Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig yng Nghymru a herio agweddau pobl tuag at hyn.
Gafodd eu lansiad at y’r canolfan siopa ‘Queens Arcade’, yng Gaerdydd gyda arddangosfa defnyddio leiniau ddillad.
Yn hongian ar bob lein ddillad mae crysau-T sydd wedi'u creu'n arbennig ac yn dwyn delweddau a sylwadau gan y rhai sydd wedi goroesi cam-drin domestig yng Nghymru. Mae pob crys-T yn dangos sut roedd eu profiadau nhw o gam-drin domestig ynni gwneud iddynt deimlo.
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, lansiodd yr ymgyrch a dywedodd:
"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i helpu dioddefwyr cam-drin domestig ac i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth ac y gallant fyw yn ddiogel o fewn eu cymunedau lleol.
"Mae'r gwaith ymgyrchu proffil uchel a wnaethom hyd yn hyn fel rhan o'n strategaeth chwe blynedd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yn golygu ein bod wedi cyflawni llawer yn ystod y blynyddoedd diweddar. Ond rwy'n sylweddoli bod angen gwneud rhagor, a thrwy weithio gyda'n partneriaid byddwn yn darparu cymorth a chefnogaeth i alluogi pobl i fyw heb ofn.
"Mae cam-drin domestig yn effeithio ar lawer o fywydau. Ond gan fod hyn yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, yn aml mae'n cael ei anwybyddu. Mae ein hymgyrch ddiweddaraf, Byw heb Ofn, yn rhoi inni gipolwg grymus o effaith cam-drin domestig ac yn ceisio herio agweddau ac ymddygiadau.
"Gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn lledu'r neges nad yw cam-drin domestig yn dderbyniol ac na allwn ganiatáu hyn ac y bydd yn rhoi'r hyder i ddioddefwyr ofyn am gymorth a chefnogaeth.
"Rwy'n benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod pawb yng Nghymru'n gwybod beth yw rhif llinell gymorth Cam-drin Domestig Cymru Gyfan, sef 0808 8010 800. Rwy'n gofyn i'r cyfryngau chwarae eu rhan drwy roi cyhoeddusrwydd i'r rhif hwn pan fyddan nhw'n cyflwyno adroddiadau neu unrhyw eitemau newyddion sy'n ymwneud â cham-drin domestig."
'
Byw Heb Ofn' yw'r ymgyrch ddiweddaraf i gael ei lansio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i hagenda barhaol, 'Yr Hawl i fod yn Ddiogel'. Mae'n cynnwys dau fideo trawiadol. Mae'r fideo cyntaf yn canolbwyntio ar drais rhywiol yn erbyn menywod tra bod yr ail fideo'n edrych ar effeithiau cam-drin domestig ar blant. Caiff y ddau fideo eu dangos yn ystod y bythefnos yn dilyn y lansiad a byddant yn cynnwys gwybodaeth am sut i geisio cymorth.
Dywedodd Swyddog y Menywod UCMC, Stephanie Lloyd yn post blog-
"Mae’n wych gweld Llywodraeth Cymru’n gwneud safiad mor gryf yn erbyn Trais yn erbyn Menywod, yn wir ar adeg o doriadau, maent yn darparu mwy o gyllid ar gyfer yr Uned Drais yn erbyn Menywod a Chamdriniaeth yn y Cartref. Mor ddiwedar â bore yma, cefais gyfarfod gyda’u pennaeth polisi ac ‘rydym yn dechrau cynllunio nawr ar gyfer sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn adroddiad Marciau Cudd yn 2010."
Mae amrywiaeth o wasanaethau arbenigol lleol ar gael ledled Cymru a all ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol mewn ymateb i ymosodiad rhywiol. I gael gwybodaeth am wasanaethau arbenigol sydd ar gael cysylltwch â Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru Gyfan ar 0808 80 10 800.