
Ar 3ydd Tachwedd, cynhaliodd UCMC ei ail Ddiwrnod Hyfforddiant Tai yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. ‘Roedd yn ddigwyddiad cadarnhaol a ddarparodd gryn lawer o wybodaeth i bobl; ‘roedd dros hanner y swyddogion llety/lles o brifysgolion Cymru’n bresennol, a rhoddwyd cyfle iddynt i rannu arferion gorau ym maes Llety Myfyrwyr.
Yn ystod y diwrnod daeth:
• Anne Rowland o fudiad Achredu Landlordiaid Cymru a Kieran McCann – Swyddog Prosiect Tai Myfyrwyr Cyngor Caerdydd i roi cyflwyniad diddorol ar ddeddfwriaeth sy’n perthyn i’r Sector Rentu Breifat, ac atebwyd cwestiynau ar agweddau cyfreithiol sy’n ymwneud â Thai Myfyrwyr yng Nghymru.
• Pete Mercer – Is-Lywydd Lles UCM DU i siarad am y cefndir a’r sefyllfa bresennol parthed â Thai Myfyrwyr yn y DU
• Chris Davies – Swyddog Lles a Chyfathrebu yn Undeb Caerdydd i siarad am arferion gorau’r ymgyrch les sydd wedi cael eu datblygu yn UM Caerdydd, ac aeth Danielle Buckley – Is-Lywydd Addysg a Lles yn UM Bangor ati i esbonio sut y bu iddynt ddatblygu eu hymgyrch dai dros y flwyddyn gyntaf.
• Charlotte Britton – Swyddog Lles yn Undeb Myfyrwyr Abertawe i siarad am y mentrau ‘roedd hi wedi eu gweithredu yn Abertawe, gyda’r nod o annog ac atgoffa myfyrwyr o bwysigrwydd bod yn perthyn i a bod yn aelodau gweithredol o’u cymunedau.
Canolbwynt y diwrnod oedd lawnsio Arolwg Tai UCMC – cyflwynwyd yr arolwg gan Charlotte Britton a Raechel Mattey – Dirprwy Lywydd UCMC, ynghyd â’u gobeithion ar gyfer mynd ati am y tro cyntaf i gasglu data ansoddod ar gyflwr materion tai sy’n effeithio ar fyfyrwyr yng Nghymru.
Daeth y diwrnod i ben gyda thrafodaeth ymysg y cynrychiolwyr i gyd ar faterion cyfoes megis Tai a Llety ar gyfer Myfyrwyr Cymru, ac os yw rhenti uwch yn gyfystyr â safonau uwch?