
Ym mis Tachwedd, bydd UCM yn cynnal y gynhadledd gweithredaeth myfyrwyr fwyaf a welwyd erioed yn y DU. Nod ‘Gweithredaeth Myfyrwyr 2011’ yw dod ag amrediad eang o weithredwyr o bob rhan o’r sbectrwm wleidyddol at ei gilydd i ddysgu, rhannu ac ysbrydoli cenhedlaeth o ymgyrchwyr.
Cynhelir y digwyddiad ymgyrchu myfyrwyr enfawr hwn – sydd AM DDIM – yng nghanol Llundain ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd. Bydd yn galluogi undebau myfyrwyr, grwpiau myfyrwyr, UCM a mudiadau ymgyrchu eraill i drafod a threfnu gweithredu lleol a chenedlaethol ar y materion hynny sy’n effeithio ar fyfyrwyr heddiw.
Caiff y digwyddiad ei drefnu ar ffurf amrediad eang o weithdai, trafodaethau, areithiau a dosbarthiadau meistr, a fydd yn arwain at weithred ymgyrchu torfol.
Sut all undebau myfyrwyr gyfranogi?
Eich digwyddiad chi yw hwn; Bydd UCM yn darparu’r fframwaith ac yn cydlynu’r rhaglen a’r trefniadau, serch hynny chi – undebau myfyrwyr – gaiff benderfynu ar y rhan fwyaf o’r cynnwys.
• Trefnwch fysiau / trenau / trafnidiaeth NAWR ar gyfer cynifer o bobl â phosibl – os ydych yn ei gadael hi tan yn nes at y dyddiad, mae’n mynd i gostio mwy i chi
• Hyrwyddwch ‘Gwethredaeth Myfyrwyr 2011’ yn eich UM (bydd defnyddiau ar gael oddi wrth UCM yn fuan iawn)
• Gwirfoddolwch i redeg gweithdy / trefnu trafodaeth / darparu adloniant / neu gyfranogi mewn unrhyw ffordd arall sy’n apelio atoch chi
• Ydy eich UM wedi cael llwyddiannau gydag ymgyrchoedd y gallai eraill ddysgu oddi wrthynt? Ydych chi’n gwneud gwaith da ar ddatblygu gweithredwyr? Rhannwch eich profiadau drwy gyflwyno / rhedeg sesiwn ar beth ‘rydych chi’n ei wneud
• Siaradwch â’ch grwpiau myfyrwyr, clybiau a chymdeithasau ynglyn â sut y gallant gymryd rhan
• Dewch â’ch myfyrwyr – cynifer ohonynt â sy’n bosibl – i gyfranogi
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Uned Ymgyrchoedd UCM ar campaigns@nus.org.uk