
Cred UCM Cymru y dylai Plaid Lafur y DU fod yn fwy uchelgeisiol wrth ymdrin â chyllido addysg uwch, a bod angen i Lafur Cymru ddal at eu hymrwymiad yn yr etholiad i gefnogi myfyrwyr Cymreig gyda chostau ffioedd, ble bynnag y byddant yn penderfynu astudio yn y DU.
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi cyhoeddi pe bai ei blaid mewn grym, y byddent yn cyfyngu ffioedd dysgu yn Lloegr i £6,000 y flwyddyn. Byddai hyn yn cael effaith ar drefniannau cyllido prifysgolion yng Nghymru, gan fod y mwyafrif o sefydliadau yn bwriadu codi £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr o Loegr sy’n astudio yng Nghymru o 2012.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi gwneud sylwadau ar y cyhoeddiad gan ddweud y byddai’r polisi yn arbed arian i Lywodraeth Cymru gan y byddai angen cymorthdal is ar gyfer myfyrwyr sy’n wreiddiol o Gymru.
Mewn ymateb dywedodd Llywydd UCMC, Luke Young:
“Mae cap o £6,000 yr un mor ddrwg â chap o £9,000. Mae hwn yn bolisi sydd angen ei ddatblygu cyn iddynt hyd yn oed feddwl am ei gyflwyno i’r etholwyr mewn Etholiad Cyffredinol. Mae Ed Miliband wedi dweud yn gyhoeddus ei fod o blaid Treth Graddedigion; mae angen i ni glywed mwy ar sylwedd y cynnig hwn. Byddem yn croesawu unrhyw gamau i ostwng y cap, ond mae’n brin o uchelgais yn nhermau newid sylweddol i’r system ddryslyd sy’n cael ei gweithredu gan Lywodraeth San Steffan.
“Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymu i gynnal myfyrwyr sy’n wreiddiol o Gymru, ble bynnag yn y DU y byddant yn dewis astudio, yn parhau i fod y peth cywir i’w wneud. Tra’i bod yn anhebygol y bydd yno lywodraeth Lafur yn y DU yn yr ychydig wythnosau nesaf, rhaid i Lafur Cymru gynllunio ymlaen llaw er mwyn sicrhau cyfundrefn gynaliadwy ar gyfer cyllido prifysgolion sy’n amddiffyn graddedigion rhag dyledion pellach. Dylent gadw at eu hegwyddorion ac amddiffyn Cymru rhag effeithiau niweidiol y farchnad mewn Addysg Uwch.”