
Mae cynllun newydd wedi cael ei lawnsio sy'n caniatáu i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam, i reportio troseddau ar y campws heb fynd yn uniongyrchol at yr heddlu.
Prif darged ymgych 'Siaradwch Allan' yw dioddefwyr troseddau casineb.
Dywed Urdd y Myfyrwyr eu bod yn gobeithio y bydd pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus ynglyn â siarad gyda hwy, ac y bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y nifer o bobl sy'n reportio ymosodiadau.
Mae fideo o'r stori a ddarlledwyd ar newyddion ITV Cymru ar 31ain Awst 2011 i'w weld fan yma
Gweithiodd UCM Cymru ac ITV Cymru gyda'i gilydd i ddod â'r stori hon i chi, ac 'rydym yn gobeithio y bydd undebau eraill yn cysylltu â ni gydag ymgyrchoedd ysbrydoledig eraill y gallwn roddi sylw teilwng iddynt. Os oes gennych chi ymgyrch yr hoffech ddweud wrthym amdani, e-bostiwch Sophie (sophie.buchaillard-davies@nus-wales.org.uk ) yn swyddfa UCM Cymru.