
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad fod Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu codi ffioedd dysgu o hyd at £9,000, dywedodd Katie Dalton, Llywydd UCM Cymru:
"Yn anffodus, nid yw'n syndod i ni fod Prifysgol Aberystwyth wedi mynegi eu bwriad i godi ffioedd dysgu o £9,000. Gydol y drafodaeth hon, 'rydym wedi bod yn feirniadol o gap mor uchel, sydd â'r potensial i ddarbwyllo'r rheiny o'r cefndir tlotaf rhag mynd i'r brifysgol, ond nawr 'rydym yn gweld y pris o £27,000 am gwrs gradd 3 blynedd yn dod yn realiti creulon."
Serch hynny, mae'n bwysig cofio na chaiff y brifysgol godi ffioedd uwch na £4,000 oni fydd CCAUC yn cymeradwyo eu cynllun ffioedd. Mae gan y Cyngor Cyllido gyfrifoldeb enfawr i sicrhau fod sefydliadau yng Nghymru yn ymrwymo i dargedau ehangu mynediad uchelgeisiol a gwelliannau i brofiadau myfyrwyr cyn y byddant hyd yn oed yn ystyried caniatáu iddynt i wneud hyn."
"Mae nawr yn bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gaiff ei arwain gan Lafur yn ôl pob tebyg, yn cadw at eu haddewid i amddiffyn myfyrwyr Cymreig. Yn anffodus, gallai unrhyw fyfyrwyr nad ydynt yn wreiddiol o Gymru sy'n bwriadu astudio yn Aberystwyth fod yn wynebu lefel frawychus o ddyled myfyrwyr"