
Y prynhawn yma, cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews ei fwriad i barhau i fod â dau le wedi eu neilltuo ar gyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach, fel rhan o ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar lywodraethu addysg bellach. Mae hyn yn groes i argymhelliad Adolygiad Humphreys a fyddai wedi gweld myfyrwyr lywodraethwyr yn cael eu diddymu. ‘Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwn, gan fod myfyrwyr yn rhanddeiliaid allweddol mewn unrhyw sefydliad addysgol, ac o’r herwydd mae ganddynt gyfraniad unigryw a phwysig i’r wneud i’r ffordd y caiff ei lywodraethu. ‘Rydym yn gwerfawrogi’n arbennig yr ymrwymiad i sicrhau y dylai’r ddau le a neilltuwyd fod yn gytbwys o ran rhywedd, gan felly sicrhau fod myfyrwyr sy’n ddynion ac yn fenywod yn cael eu cynrychioli’r gyfartal.
Serch hynny, ‘roeddem yn siomedig i weld na fydd yno leoedd wedi eu neilltuo’n benodol ar gyfer aelodau staff ar y byrddau llywodraethu newydd hyn. Credwn fod staff hefyd yn rhanddeiliaid mewn sefydliadau addysg bellach, ac o’r herwydd dylent hwythau fod â sedd wrth y bwrdd yn ogystal. Edrychwn ymlaen at gael trafod y mater hwn gyda’r Gweinidog yn y dyfodol.
Dywedodd Dirprwy Lywydd UCM Cymru, Raechel Mattey:
“Rydym yn falch iawn y bydd myfyrwyr yn parhau i fod ar gyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach. Mae UCMC wastad wedi dadlau y dylai fod yno le wrth galon llunio penderfyniadau ar gyfer myfyrwyr, ac ’rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i sicrhau fod hyn yn digwydd o fewn i’r strwythur newydd. Mae nawr yn bwysig fod colegau yn manteisio ar y cyfle ac y chwilio am ffyrdd o wella ymgyslltiad myfyrwyr ymhellach.
Credwn y dylai cyrff llywodraethu adlewyrchu’r cymunedau academaidd maent yn eu gwasanaethu, a dyma pam ein bod ni’n gadarn yn ein cerfnogaeth i gamau sy’n sicrhau nad yw menywod yn methu allan o ran cynrychiolaeth ar gyrff llunio penderfyniadau.”