Login

  • SU Directory
  • Interact
  • Trading
  • NUS Extra

News

Rhaid mynd i’r afael ag anghysondebau mewn cynrychiolaeth myfyrwyr

mae UCM Cymru wedi galw ar y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes i fynd i’r afael ag anghysondebau mewn argymhellion ar gyfer cynrychiolaeth myfyrwyr o fewn i strwythurau llywodraethu addysg bellach ac uwch.

Rhyddhawyd dau adroddiad ar lywodraethu addysg bellach ac uwch heddiw:
• Adroddiad yr adolygiad annibynnol o lywodraethu addysg uwch yng Nghymru
• Adolygiad annibynnol o drefniannau llywodraethu mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru

Mae UCM Cymru yn croesawu’n gyffredinol yr argymhellion a wneir yn y ddau adroddiad i greu fforymau rhanddeiliaid, a fyddai’n disodli cyrff/byrddau llywodraethu sy’n bodoli ar hyn o bryd mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch.  Mae’r adroddiadau hyn yn awgrymu y byddai’r fforymau hyn yn gweithredu fel cerrig ateb; yn helpu i osod cyfeiriad strategol y sefydliad; yn hysbysu’r bwrdd; yn herio’r bwrdd; yn dal y bwrdd i gyfrif ac yn cadarnhau penodiadau.

Serch hynny, mae UCMC yn teimlo’n rhwystredig o sylwi nad oes yno leoedd wedi eu neilltuo ar gyfer myfyrwyr ar gyrff llywodraethu mewn dau faes allweddol:

• Llywodraethu sefydliadol mewn AB
• Lywodraethu cenedlaethol mewn AU

Yn yr adroddiad ar Lywodraethu AU, mae’r argymhellion yn cynnwys corff cyllido a rheolaethu newydd (i ddisodli CCAUC); byddai bwrdd y corff newydd yn cynnwys cyfarwyddwyr sefydliadol ac allanol.  Mae UCMC yn siomedig dros ben fod yr adroddiad yn methu cynnig unrhyw leoedd ar gyfer myfyrwyr.

Mae Llywydd UCMC ar hyn o bryd yn eistedd fel sylwedydd ar Gyngor CCAUC, ac ‘roedd llythyr cylch gorchwyl gan y Gweinidog at GCAUC yn ddiweddar yn datgan:

‘Bydd llais myfyrwyr yn dod yn fwy, nid yn llai, pwysig.’ (Gweinidog dros BADGO)

Yng ngoleuni hyn a’r newidiadau parhaus mewn cyllido addysg uwch, sy’n trosglwyddo mwy o’r gost ar fyfyrwyr, mae UCMC yn annog y Gweinidog i sicrhau fod gan fyfyrwyr le ar y corff cyllido a rheolaethu arfaethedig newydd.


Ar nodyn cadarnhaol, mae UCMC yn croesawu’n wresog yr argymhelliad canlynol a gyflwynwyd gan John McCormick yn adroddiad yr Adolygiad Annibynnol o Lywodraethu Addysg Uwch:

R 12    Dylai pob bwrdd gynnwys aelodau o gymuned y staff a’r myfyrwyr fel aelodau llawn o’r bwrdd, nid dim ond i gyflawni rôl gynrychioli, ond i ddarparu mewnbwn hanfodol i strategaeth.


Serch hynny, mewn cyferbyniad i hyn, mae UCMC yn eithriadol o siomedig i nodi’r cynnig i ddiddymu’n llwyr unrhyw leoedd wedi eu neilltuo ar gyfer myfyrwyr ar gyrff llywodraethu mewn sefydliadau Addysg Bellach, er gwaethaf y ffaith fod yr adroddiad yn datgan:

“Ar hyn o bryd, mae gofyn i sefydliadau AB fod ag un aelod sy’n fyfyriwr ar y corff llywodraethu, ac mae canllawiau ar gyfer arferion da a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2010 yn argymell dau aelod sy’n fyfyrwyr...”

Credwn y dylai Argymhelliad 12 yn yr adroddiad ar Lywodraethu AU hefyd fod yn berthnasol i lywodraethu sefydliadau AB.  Mae UCMC yn annog y Gweinidog i roddi sicrwydd fod gan fyfyrwyr leoedd wedi eu neilltuo ar gyrff llywodraethu sefydliadau Addysg Bellach.

Wrth wneud sywadau ar yr adroddiadau, dywedodd Katie Dalton, Llywydd UCMC:

“Mae UCMC yn croesawu’r argymhelliad parthed â chyflwyno fforymau rhanddeiliaid i gyfrannu, herio a dal i gyfrif gwaith Cyrff Llywodraethu mewn AB ac AU.  Serch hynny, mae’n bwysig hefyd fod gan fyfyrwyr lleoedd wedi eu cadw ar fyrddau llywodraethu sefydliadau mewn AB ac AU.”

“Rydym hefyd yn siomedig iawn o weld nad yw’r adroddiad ar Lywodraethu AU yn cyfeirio at gynrychiolaeth ar y corff cyllido a rheolaethu cenedlaethol arfaethedig.  Rhaid i’r Gweinidog fynd i’r afael â’r anghysondebau hyn a sicrhau fod gan fyfyrwyr leoedd ar bob lefel o lywodraethu AB ac AU.”
 

Comments

Please login to comment.

No comments have been made.
 
Some features of this site - including article viewing - require javascript enabled.
You must be logged in to view this article - Login now

Share

Latest in campaigns

Student Eats Open Day

Student Eats participants from across the country visit the University of Exeter to share experiences for the first time.

 
NUS releases cyberbullying briefing
Computer mouse

This briefing gives some background on types of cyberbullying, the impact it can have on students and what students' unions can do to address this on their own campus.

 
Student movement comments on report on review of teacher training

Following today’s update from Minister Stephen Farry in the Assembly on the review of teacher education infrastructure in Northern Ireland, NUS-USI student movement President Adrianne Peltz said: “The student movement will be examining this report in detail and we will be discussing it with our member institutions.

 
Getting to know Harriet Sjerps-Jones

Ahead of her lecture at the Student Eats Open Day 2013, we asked Harriet Sjerps-Jones about campuses as 'living laboratories'.

 
Adult Learners' Week 2013

Every day this week we will upload a special edition of Toni Notes. These will cover different aspects of adult learning, in celebration of Adult Learners' Week 2013.

 
Student movement condemns removal of January A-Level resit

Following the announcement by Education Minister John O’Dowd on A-Level changes, NUS-USI student movement President Adrianne Peltz said the announcement must ensure clarity for students and must maintain the integrity and transferability of qualifications. She said however that removing the January resit option for new A-Level students, and the potential change to the AS/A2 weightings were both very retrograde steps.

 
 

Latest news

Last Week Next Week

Welcome to your weekly round-up of who we have been meeting and what we have been saying on your behalf to promote, defend and extend the rights of students.

 
Improving access for disabled learners

Government cuts and proposed changes to the law are making it more difficult for disabled learners to access mainstream education. We take an in-depth look at the changes.

 
Last Week Next Week

Welcome to your weekly round-up of who we have been meeting and what we have been saying on your behalf to promote, defend and extend the rights of students

 
Aaron Kiely re-elected as Black Students’ Officer
Aaron Kiely reelected

Delegates choose incumbent to serve a second term

 
Happy cows, happy farmers, happy planet

By ensuring the good ethics of their supply chain through initiatives like Caring Dairy, Ben & Jerry’s strike a close parallel between their own practices and those of NUS. Through our support of the Happy Cows campaign, also championed by the company, NUS and two activist students were invited to the Netherlands to see first-hand how Ben & Jerry’s are world leaders of making their own supply chain ethical, by visiting a Caring Dairy farm.

 
Officer Development Programme – “The most valuable training I've been on”

NUS training can help you fulfil your potential within the student movement – and beyond. One of our previous attendees reflects on how the training has proven to be a great benefit.

 
 

Most Read

Trending/Most Shared articles

 

Recent Comments