
Beth sy’n digwydd?
Ar 15 Tachwedd 2012, caiff Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau (CHTh) eu hethol am y tro cyntaf ar draws Lloegr a Chymru. Etholir un CHTh ar gyfer pob ardal heddlu, ag eithrio’r rheiny yn Llundain.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Mercher 31 Hydref.
Byddant yn gyfrifol am osod blaenoriaethau o ran troseddau a’r heddlu, ynghyd â gosod allan cynlluniau ar gyfer lleihau troseddau a diogelwch cymunedol ledled eu hardal heddlu.
Mae hwn yn rhan o agenda’r glymblaid ar gyfer ardaloedd lleol, sydd â’r nod o ddatganoli mwy o bwerau llunio-penderfyniadau i swyddogion a etholir yn lleol.
Pam fod hyn yn bwysig?
Bydd gan GHTh bwer aruthrol, a chaiff y ffordd y byddant yn dewis ei ddefnyddio effaith gwirioneddol ar fyfyrwyr a’r cymunedau maent yn byw ynddynt, o ymddygiad gwrth-gymdeithasol, i oleuo strydoedd, i gamddefnydd o gyffuriau.
Mae’n hanfodol bwysig fod ymgeiswyr yn sylweddoli na allant anwybyddu myfyrwyr a phobl ifanc, ac y byddant yn eu dal i gyfrif am eu gweithredoedd a’u penderfyniadau. O gofio fod CHTh yn debygol o fod yn gweithredu gyda chyllidebau llai, mae angen i fyfyrwyr siarad allan dros yr amrediad o wasanaethau maent yn dibynnu arnynt.
Yn ôl y Gymdeithas Ad-drefnu Etholiadol, mae disgwyl i’r nifer o bleidleiswyr sy’n troi allan i bleidleisio ar y diwrnod i fod yr isaf ers blynyddoedd lawer – maent yn rhagweld mai dim ond 18.5% o’r boblogaeth fydd yn pleidleisio.
Golyga hyn y gallai ymgeiswyr sydd ag ychydig iawn o gefnogaeth leol gael y pwer i wneud pethau a gaiff effaith sylweddol ar y gymuned leol.
Er enghraifft, gall ymgeiswyr sydd â safbwyntiau eithafol, na fyddent fel arall yn gwneud argraff ar etholiadau eraill, fod â gwell cyfle am lwyddiant etholiadol yn yr etholiadau am GHTh yn sgil y ffaith fod y nifer o bleidleiswyr yn isel. Drwy bleidleisio ar y diwrnod, gall myfyrwyr helpu i osod yr agenda yn eu hardal leol.
Sut ydw i’n cofrestru i bleidleisio?
‘Rydych yn gymwys i bleidleisio os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig, neu’n ddinesydd o’r Iwerddon, y Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y DU, ac a fydd yn 18 oed neu drosodd ar 15 Tachwedd. I ganfod mwy ynglyn â sut i bleidleisio a sicrhau eich bod chi wedi cofrestru, ewch i www.aboutmyvote.co.uk
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau ar gyfer y CHTh, yw 31 Hydref – gwnewch yn sicr eich bod yn gadael digon o amser i dychwelyd y ffurflen i’ch swyddfa gofrestru etholiadol leol.
Sut allaf i ganfod mwy?
Am fwy o wybodaeth ar yr etholiadau ac i ganfod pwy yw eich hymgeiswyr lleol, ewch i www.choosemypcc.org.uk
Gallwch hefyd ganfod pa rai o’ch hymgeiswyr lleol sydd wedi arwyddo i fyny i’r Siarter Ieuenctid ar gyfer CHTh, gan gytuno i gymryd barn pobl ifanc i ystyriaeth fan yma
‘Rydym wedi llunio dogfen sy’n cynnwys rhai materion allweddol i’w hystyried, ynghyd â hintiau handi ar sut y gallwch weithredu nawr yn eich hundebau. Mae’r materion hynny’n cynnwys:
-
atal ac archwilio
-
eich hawl i wrthdystio
-
pobl ifanc ac ASBOs
-
dim lle am gasineb
-
atal eithafiaeth treisiol
-
diogelwch myfyrwyr
-
y berthynas o fewn i’r gymuned
-
alcohol
Lawrlwythwch y ddogfen hon.