
Mae Ymgyrch Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws (LHDT) UCM Cymru yn croesawu rhoddi terfyn ar y gwaharddiad am oes ar ddynion sy’n cysgu gyda dynion rhag rhoddi gwaed. Credwn fod y polisi hwn wedi bod yn un camwahaniaethol ac yn fater ‘rydym wedi ymgyrchu arno ers blynyddoedd. Mae degau o filoedd o lofnodion a channoedd o weithredoedd uniongyrchol wedi cael eu trefnu drwy’r ymgyrch Rhoddi nid Rhagfarnu / Cyfrannu din Camwahaniaethu
Defnyddiau Rhoddi nid Rhagfarnu / Cyfrannu din Camwahaniaethu i dadlwytho
Cyflwynwyd y gwaharddiad tua dechrau’r 1980au gan weithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth, gyda’r nod o leihau’r risg o drosglwyddo HIV a heintiau eraill drwy drallwysiad gwaed. Golygai’r gwaharddiad fod unrhyw ddyn oedd erioed wedi cael rhyw geneuol neu yn y rhefr gyda dyna arall, gyda chondom, wedi ei wahardd am oes rhag rhoddi gwaed.
Credwn fod gwaharddiad am oes nid yn unig yn gamwahaniaethol ond hefyd yn seiliedig ar ymchwil gwallus. Ynghyd â hyn, llwyddodd y gwaharddiad i hyrwyddo rhagfarn a chryfhau’r ddamcaniaeth ynglyn â dynion hoyw a HIV.
“Mae rhoddi gwaed yn hanfodol bwysig, nawr yn fwy nag erioed o’r blaen; mae angen gwaed ar gyfer llawer o bethau gan gynnwys creu meddyginiaethau. Ers blynyddoedd lawer, mae Ymgyrch LHDT UCM Cymru wedi ymgyrchu ar y mater yma ac ‘rydym yn gefnogol i’r penderfyniad hwn i roi terfyn ar y gwaharddiad am oes”
Tra’n bod yn croesawu’r terfyn ar y gwaharddiad am oes, ‘rydym yn siomedig mai’r ateb a gynigir yw gohiriad o ddeudeg mis. Credwn mai dim ond y rheiny sy’n ymgymryd â gweithgareddau rhywiol risg uchel, a sydd ddim yn defnyddio condom, ddylai gael eu gwahardd rhag rhoddi gwaed. ‘Rydym yn siomedig nad yw’r Llywodraeth wedi rhoddi ystyriaeth lawn i’r opsiwn yma a fyddai’n caniatáu i ddynion sy’n cysgu gyda dynion, sydd ddim yn ymgymryd â gweithgareddau rhywiol peryglus a sy’n defnyddio condom, i roddi gwaed mor amled â maent yn dymuno gwneud hynny.
Rydym nawr yn galw am esboniad gan y Llywodraeth ynglyn â pham eu bod wedi disodli’r gwaharddiad â gohiriad o ddeuddeg mis. Mae’n allweddol bwysig fod unrhyw ymchwil sy’n cefnogi’r penderfyniad hwn yn cael ei gyhoeddi, fel y gellir edrych yn fanwl arno a’i feirniadu’n briodol.
“Er fod gohiriad o ddeuddeg mis yn welliant sylweddol ar y gwaharddiad am oes oedd yn bodoli o’r blaen, fel mudiad rhaid i ni weithio gydag eraill i alw am gyhoeddi’r ymchwil hwn er mwyn ein caniatáu i weld manylion yr ymchwil sydd tu ôl i’r penderfyniad hwn a pham bod dynion a ystyrir i fod yn risg isel yn dal i orfod aros am y deuddeg mis cyfan”
NODIADAU
Mae’r Ymgyrch Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws (LHDT) yn un o bump Ymgyrch Ryddhad hunanreolus o fewn i UCM Cymru. Nod yr ymgyrchoedd rhyddhad hyn yw cynrychioli a rhoddi grym i unigolion sy’n gorfod ymdopi ag anfantais a chamwahaniaethu, gan ymdrechu i fynd i’r afael â’r gormes sy’n effeithio ar y grwp penodol hwnnw o bobl.
Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Swyddog LHDT UCM Cymru Ian Morgan, ar Ian.Morgan@nus-wales.org.uk