
Mae Iechyd Rhywiol LHDT wedi bod yn un o bolisïau ein hymgyrch ers amser maith, ond ac nid oes unrhyw beth effeithiol wedi cael ei wneud ynglyn â’r mater; o’r herwydd ‘rwyf wedi penderfynu ei wneud yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, gan ddechrau ar y gwaith ar unwaith.
Rydym angen newid yng Nghymru a byddwn ni fel ymgyrch yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i wneud i hyn ddigwydd. Mae yno fferyllfeydd cymunedol/lleol ledled Cymru, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig, sy’n cael eu defnyddio gan gymaint o aelodau o’n hundebau myfyrwyr. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol eisiau creu newid er mwyn sicrhau y gallant gynnig amrediad eang o wasanaethau i’r cyhoedd yn gyffredinol.
CYFLE!!
Y syniad yw sefydlu gwasanaethau yn y fferyllfeydd hyn er mwy sicrhau fod gwybodaeth iechyd rhywiol LHDT ar gael i bawb, hyd yn oed y bobl hynny sydd mewn ardaloedd gwledig lle mae amryw o’n campysau wedi eu lleoli, ond sydd ar hyn o bryd yn gorfod teithio i drefi mawr i gael gafael ar wybodaeth ac adnoddau o’r fath.
Rydym wedi bwrw ymlaen gyda hyn drwy gyflwyno tystiolaeth i bwyllgor o’r Cynulliad Cenedlaethol parthed â’r mater hwn. Hefyd cynhaliwyd cyfarfod gyda staff Llywodraeth Cymru lle codwyd y mater; ‘rydym yn aros am y canlyniad fel y gallwn ymateb!
Mae hwn yn gam sylweddol, nid yn unig i iechyd rhywiol LHDT yng Nghymru, ond hefyd o ran ennill cydnabyddiaeth i’r Ymgyrch o fewn i’r Cynulliad Cenedlaethol ac yng Nghymru’n gyffredinol; byddaf yn parhau i’ch darparu â’r diweddaraf ar bopeth sy’n digwydd.
Os hoffai unrhyw un gael gwybodaeth benodol, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau ynglyn â’r hyn ‘rydym wedi ei gyflwyno a.y.b. yna mae croeso i chi anfon e-bost ataf: ian.morgan@nus-wales.org.uk
Mewn Balchder
Ian Morgan