Menu

Y Talwrn

  • Y talwrn 2016 final web
  • Y Talwrn Aberystwyth Tuesday 09-08-2016 - 10:00 until Wednesday 10-08-2016 - 16:30

This event has expired or is no longer available.

Y Talwrn

Y Talwrn yw digwyddiad cyntaf UCM Cymru yng nghalendr undeb y myfyrwyr. Dyma gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, rhannu syniadau a datblygu sgiliau newydd. Mae undebau myfyrwyr yng nghalon popeth rydyn ni'n ei wneud yn UCM Cymru ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydweithio drwy drefnu'n genedlaethol a thrwy gefnogi'r gwaith rydych chi'n ei wneud ar y materion lleol sy'n effeithio ar fyfyrwyr.

Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn lansio ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn fel mudiad myfyrwyr ac yn dod â swyddogion a phrif aelodau staff undebau myfyrwyr o ledled y genedl ynghyd. Bwriad y digwyddiad hwn yw cynnal trafodaeth ddwy-ffordd rhwng UCM Cymru a'i aelodaeth a bydd yn gosod tôn y ffordd byddwn ni'n ennill i fyfyrwyr yn 2016/17, gyda chanolbwynt ar ddatblygu ein strategaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Bwriad y gweithdai yw rhoi gwybodaeth ynglŷn â gwasanaethau, rhaglenni a chymorth sydd ar gael trwy UCM DU, yn ogystal â rhoi golwg fwy manwl ar sut rydyn ni'n datblygu ein gwaith partneriaeth yn UCM Cymru ar y materion mawr sy'n wynebu mudiad y myfyrwyr o fewn cyd-destun datganoledig. Mae'r rhaglen yn cynnwys siaradwyr gwadd, sesiynau llawn a chyfleoedd i rannu syniadau gyda swyddogion a staff eraill undebau myfyrwyr yng Nghymru.

Mae'n flwyddyn fawr i Gymru ac mae rhaid i ni fanteisio arni. Bydd Y Talwrn yn sbarduno'r ffordd byddwn ni'n gwneud hynny fel mudiad myfyrwyr unedig yng Nghymru.

 

Y Talwrn is the first NUS Wales event of the students’ union year. It is a prime opportunity to meet new people, share ideas and learn new skills. Students’ unions are at the heart of everything we do at NUS Wales and it is vital that we work together by organising nationally, and by supporting the work you are doing on the issues that affect students locally.

This two-day event will launch our plans for the year as a student movement and bring together student officers and senior students' union staff from across the nation. The event is about a two way conversation between NUS Wales and its membership and will set the tone for how we will win for students in 2016/17, with a focus on building and outlining our local and national strategies for the year ahead.

The workshops are designed to provide information on services, programmes and support that is available through NUS UK, as well as providing a more detailed look at how we develop our partnership work at NUS Wales on the big issues facing the student movement within our devolved context. The programme includes keynote speakers, plenary sessions and opportunities to share ideas with other students’ union officers and staff in Wales.

It’s a big year for Wales and we need to make it count. Y Talwrn will be the launch pad for how we will go about doing that as a united student movement in Wales.

(Registration Closes 29 July)

Venue/Timing

Venue : Aberystwyth

Type: Workshop or Training

Start Date: Tuesday 09-08-2016 - 10:00

End date: Wednesday 10-08-2016 - 16:30

Capacity: 250

Contact Details

Jezzelle.Lobeck@nus-wales.org.uk