Mewn ymateb i ffigurau a ryddhawyd gan UCAS heddiw. Mae UCM Cymru’n bryderus …
Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi gwahodd yr holl ymgeiswyr ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i siarad allan o blaid amddiffyn cynhaliaeth i fyfyrwyr a chefnogi ein hymgyrch ‘Mynediad i Bobman’. Yn ystod yr wythos sy’n arwain i fyny at yr etholiad, bydd UCMC yn cysylltu â myfyrwyr, eu teuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd i’w hysbysu ynglyn â pha ymgeiswyr sydd wedi cytuno i gefnogi’r ymgyrch.
Mae’r Comisiwn Etholiadol, y corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, yn galw ar fyfyrwyr i wneud yn siwr eu bod nhw wedi cofrestru i bleidleisio mewn pryd ar gyfer yr etholiadau a’r refferendwm ar 5 Mai. Y dyddiad cau i gofrestru yw dydd Iau, 14 Ebrill.
Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC) yn bwriadu cynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr ynglyn ag etholiadau’r Cynulliad, yn ogystal â gosod pwysedd ar ymgeiswyr i gefnogi myfyrwyr yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.
Login to register for updates
Helo, Luke Young ydw i, Llywydd UCMC am 2011/12. Mae adran UCMC yn eich darparu â'r diweddaraf sy'n effeithio ar fyfyrwyr, prifysgolion ac undebau myfyrwyr yng Nghymru.
FE (Cymraeg)