Being a student officer is brilliant but it’s also tough. At times it can feel like an assault course. You have to navigate a series of tasks with the hope that you make it home and dry in one piece. It was certainly those challenges that equipped me well to do my job today.
During my time as SU President, there were two periods that both tested me to the max and looking back, probably defined my time. The first was just as Fresher’s Week finished and we were hit with a proposal by management to make cutbacks in the School of the Environment and Society (SOTEAS). What I quickly realised was that we actually had …. Nothing. No activist base, no ready cluster of campaigners. The SU was unprepared to launch any kind of a campaign. It was the sad reality of my pre-election rhetoric. The group of students that would be affected by the forced redundancies were mainly mature and international students. All of them were as worried for their futures as they were outraged.
The next few weeks were a marathon. My officer team, combined with a small but determined group were thrown into action. Countless meetings, acts of lobbying and planning sessions ready for the council vote. I’m incredibly proud of the team for their efforts but I think they would agree that at times it felt like us pushing from the centre.
The day of the vote was miserable. It was a cold December day. It poured from morning to night. I can still hear the guy walking past me on our way to the meeting saying “there’s no point, you’re not going to change anything.” It turns out he was wrong. We had changed things. The students outside in the rain had changed minds and attitudes in the University. The plans were never put to the vote.
As relieved as I was, there was a bigger issue to confront. In truth, we were lucky. If we were to be ready for the next threat to courses, then we had to build. We started talking seriously about supporting ‘student-led’ campaigns. So much so, it became the buzz phrase for anyone talking about the future development of the SU. Our lobbying efforts were stepped up. We had found our feet in the role. We managed to get a lot done and tackle quite a few issues that had been nagging us for a while. Including a very odd issue with some dodgy toilets.
Then in Autumn 2010, as the Westminster Government was hiking fees, the university announced plans to halve the Modern Foreign Languages Department. What followed was remarkable. The presidents of the French, Italian, German and Spanish societies teamed up to become the umbrella ‘FIGS’ steering group for anti-MFL cuts action. Joined by other students in the LGBT society, Labour Club, ISoc and Catholic society, they formed a broad alliance that led to months of sustained, loud and colourful action. It was my job to work for them to help maximise lobbying and coordinate campaigning efforts. We worked alongside the energetic staff and campus Trade Unions. The full resources of the union were put at their disposal.
On the day of the scheduled vote, hundreds of students march through campus and delivered a coffin inscribed MFL RIP to the Vice Chancellor. The vote was unceremoniously delayed. Then a few months later on the second attempt, after more lobbying and amid a lot of noise from the throng of students outside, University Council finally threw out the plans. In one of my last meetings, university management conceded that their now twice-failed method of ‘reform’ was “clearly just not going to work”. Students had won and won big.
The lesson for me was clear: Campaigning works when it is student-led. Campaigning wins when a students’ union gives its students a platform upon which to stand tall.
I would never have dared try to tie my successor to my own agenda or tell them how to do their job. Quite rightly he would have told me where to go. Surely though, the point is that a union or in fact any organisation that has been made ‘stronger’ is one better placed, better resourced and better prepared to deal with the big issues of day, regardless of the individual in the hot seat. Throughout both campaigns, we used a mixture of tactics however it was the student-led approach that won the day.
I still have the letter that one of the students sent me just after the first redundancy crisis. It continues to cheer me up even in the toughest moments at work. The words will remain private but the message still rings clear in my mind.
Think how things could be. Now make it happen.
--
Amser am ymgyrchu wedi ei arwain gan fyfyrwyr
Mae bod yn swyddog myfyrwyr yn brofiad gwych, ond mae hefyd yn galed. Weithiau gall deimlo fel cwrs ymarfer y fyddin. Rhaid i chi weithio eich ffordd drwy gyfres o dasgau yn y gobaith y byddwch yn cyrraedd pen y daith yn ddiogel. Mae’n sicr mai’r profiadau hynny sydd wedi fy ngalluogi i wneud fy ngwaith heddiw.
Yn ystod fy nghyfnod fel Llywydd UM, ‘roedd yno ddau gyfnod fu’n her aruthrol, ond hefyd lwyddodd i fy niffinio. ‘Roedd y cyntaf yn syth ar ôl Wythnos y Glas, pan y cyflwynodd y rheolwyr gynllun i wneud toriadau yn yr Ysgol Amgylchedd a Chymdeithas. Yr hyn a sylweddolais yn gyflym oedd, nad oedd gennym ni unrhyw beth. Dim carfan o weithredwyr, dim ymgyrchwyr brwd wrth law. Nid oedd yr undeb mewn sefyllfa i lawnsio unrhyw fath o ymgyrch. Daeth rhethreg fy areithiau cyn-etholiadol yn wir. Myfyrwyr hyn a rhyngwladol oedd y mwyafrif o’r grwp o fyfyrwyr a fyddai’n cael eu heffeithio gan y diswyddiadau. ‘Roeddynt i gyd yn gofidio ynglyn â’u dyfodol, yn ogystal â bod yn flin dros ben.
‘Roedd yr ychydig wythnos nesaf yn farathon. Aeth fy nhîm o swyddogion, ynghyd â grwp bach ond penderfynol, ati i weithredu. Cynhaliwyd cyfarfodydd, digwyddiadau lobïo a sesiynau cynllunio yn barod ar gyfer pleidlais y cyngor. ‘Rwyf yn eithriadol o falch o’r tîm am eu hymdrechion, ond credaf y byddent yn cytuno ei bod weithiau’n teimlo fel pe baem mi’n gwthio o’r canol.
‘Roedd diwrnod y bleidlais yn ddiflas tu hwnt. ‘Roedd yn ddiwrnod oer o Ragfyr. Fe lawiodd o fore tan nos. ‘Dwi’n dal i allu clywed y boi a gerddodd heibio i mi ar ein ffordd i’r cyfarfod yn dweud “does dim diben, ‘dydych chi ddim yn mynd i newid unrhyw beth.” Fel y trôdd hi allan, ‘roedd e’n anghywir. ‘Roedden ni wedi newid pethau. ‘Roedd y myfyrwyr tu allan yn y glaw wedi newid meddyliau ac ymagweddiad y Brifysgol. Ni chynhaliwyd pleidlais ar y cynllun.
‘Roedd hyn yn rhyddhad mawr i mi, ond ‘roedd yno fater mwy fyth i’w wynebu. Mewn gwirionedd, ‘roeddem yn ffodus. Os oeddem ni’n mynd i fod yn barod ar gyfer y bygythiad nesaf i gyrsiau, yna ‘roedd rhaid i ni adeiladu. Dechreuwyd siarad o ddifrif am ymgyrchoedd ‘wedi eu harwain gan fyfyrwyr’ I’r graddau nes fod pawb yn siarad yn y termau hyn wrth drafod datblgiad yr UM tua’r dyfodol. Cynyddwyd ein hymdrechion ymgyrchu. ‘Roeddem yn dechrau magu hyder. Llwyddwyd i gyflawni cryn lawer ac ymdrin ag amryw o faterion a fu’n ein plagio ers tro. Gan gynnwys y mater rhyfedd oedd yn ymwneud â thoiledau amheus.
Wedyn y ystod Hydref 2010, wrth i Lywodraeth San Steffan fynd ati i gynyddu ffioedd, cyhoeddodd y Brifysgol gynlluniau i haneru’r Adran Ieithoedd Tramor Modern. ‘Roedd yr hyn a ddilynodd y cyhoeddiad yma yn eithriadol. Ymunodd llywyddion y cymdeithasau Ffrengeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg i ffurfio grwp llywio i weithredu yn erbyn y toriadau i’r adran Ieithoedd Modern. Gyda chefnogaeth gan fyfyrwyr eraill o’r gymdeithas LHDT, y Clwb Llafur, y Gymdeithas Islamaidd a’r Gymdeithas Gatholig, ffurfiwyd clymblaid a arweiniodd at fisoedd o weithredu cyson, brwd a lliwgar. Fy swyddogaeth i oedd gweithio ar eu rhan i wneud y gorau o’r gwaith lobïo a chydlynu ymdrechion ymgyrchu. Gweithiwyd ochr yn ochr â’r staff ac Undebau Llafur y campws. ‘Roedd holl adnoddau’r undeb ar gael iddynt.
Ar ddiwrnod y bleidlais, gorymdeithiodd cannoedd o fyfyrwyr drwy’r campws er mwyn cyflwyno’r Is Ganghellor ag arch gyda’r geiriau canlynol arni: MFL (Ieithoedd Modern) RIP. Gohiriwyd y bleidlais. Yna, ychydig fisoedd yn diweddarach, ar yr ail gynnig, yn dilyn mwy o lobïo a chryn lawer o swn gan y dorf o fyfyrwyr oedd tu allan, taflodd Cyngor y Brifysgol y cynlluniau allan. Yn ystod un o’m cyfarfodydd olaf, cyfaddefodd rheolwyr y Brifysgol ei bod yn amlwg nad oedd eu dull o ‘ad-drefnu’, oedd wedi methu ddwyaith erbyn hyn, yn mynd i wiethio. ‘Roedd y myfyrwyr wedi ennill buddugoliaeth sylwedol.
‘Roedd y wers i mi’n eglur: Mae ymgyrchu’n gweithio pan y caiff ei arwain gan fyfyrwyr. Mae ymgyrchu’n ennill pan fo undeb myfyrwyr yn rhoi i’w fyfyrwyr y platform sydd ei angen i sefyll i fyny.
Fuaswn i erioed wedi meiddio clymu fy olynydd i fy agenda i neu ddweud wrtho sut i gyflawni ei swydd. Byddai ganddo bob hawl i ddweud wrtho i ble i fynd. Onid y mater allweddol, serch hynny, yw’r ffaith fod undeb neu yn wir unrhyw fudiad sydd wedi cael ei wneud yn ‘gryfach’ yn un sydd mewn gwell sefyllfa, gyda gwell adnoddau ac yn fwy parod i ymdrin â materion sylweddol y dydd, pwy byddag sy’n arwain y mudiad ar y pryd. Gydol y naill ymgyrch a’r llall, defnyddiwyd cymysgedd o dactegau, ond ‘does dim amheuaeth na’r ymagweddiad o ‘wedi ei arwain gan fyfyrwyr’ lwyddodd i ennill y dydd.
Mae llythyr a anfonwyd i mi gan un o’r myfyrwyr yn dilyn yr argyfwng diswyddiadau cyntaf yn dal i fod yn fy meddiant. Mae’n dal i fy nghysuro yn ystod yr adegau anoddaf yn y gwaith. Mae’r geiriau yn rhai priefat, ond mae’r neges yn parhau yn fy meddwl.
Meddyliwch sut y gallai pethau fod. Nawr gwnewch iddynt ddigwydd.