Menu

Ydych chi'n mynd i bleidleisio?

Friday 05-02-2016 - 09:00
Ebbi14

Dyma Ddirprwy Lywydd, Ebbi Ferguon, yn son am bwysigrwydd pleidleisio.

Pryd wnaethoch chi bleidleisio am y tro cyntaf? Trueni na fuaswn i wedi pleidleisio yng nghystadleuaeth Kit Kat 2012; pan gafodd y cyhoedd gyfle i ddewis rhwng Kit Kat siocled gwyn a menyn cnau-daear. Mae'n ofid mawr i mi na bleidleisies i, gan mai'r rhai siocled gwyn yw'r rhai gorau. Felly, rydw i am eich annog i ddefnyddio eich hawl ddemocrataidd bob cyfle gewch chi - dydych chi byth yn gwybod beth allech chi fethu allan arno.

 

Efallai fod hyn yn swnio braidd yn ysgafn, ond gan nad ydw i ond 20 oed, dydw i ddim wedi cael cymaint â hynny o gyfleoedd i ddefnyddio fy hawl ddemocrataidd. Ond mae cyfle cyffrous ar y gorwel ym mis Mai, sef Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd hwn yn gyfle i ethol Aelodau Cynulliad i gynrychioli'r etholaethau rydych chi'n byw ynddyn nhw. Mae AC yn gwneud penderfyniadau ar bethau sy'n effeithio arnoch chi. P'un ai ydych chi o Gymru'n wreiddiol neu beidio, os ydych chi'n astudio, yn byw ac yn gweithio yma, mae'r hyn maen nhw'n ei drafod yn y Senedd yn mynd i wneud gwahaniaeth i'ch bywyd.

 

Mae'n teimlo'n chwithig 'sgrifennu hwn - lai na dwy flynedd yn ôl, pe baech chi wedi gofyn i mi gofrestru i bleidleisio, heb son am fynd ati i bleidleisio mewn etholiad, buaswn i wedi chwerthin. Doeddwn i ddim yn gweld sut allai hyn fod yn berthnasol. Sut fyddai fy mhleidlais i'n gwneud gwahaniaeth? Beth mae gwleidyddion yn siarad yn ei gylch, ta beth? Doedd dim ots gen i. Y gwir ydy, roedd ots gen i a dwi'n dal i falio. Doeddwn i ddim wedi gwneud y cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth a fy mywyd i o ddydd i ddydd. Mae'n bwysig i mi os ydw i'n gallu cael trên adref; mae'r GIG yn bwysig yn ogystal â mynediad i'r adran ddamweiniau os oes angen. Rwyf yn teimlo'n gryf am gael addysg dda, addysg fydd yn fy narparu ar gyfer bywyd, nid yn fy llwytho â dyled.

 

Mae 20 maes lle mae Cymru wedi cael pwerau i wneud penderfyniadau yn eu cylch. O blith y rhain, mae tri yn arbennig o bwysig i mi: addysg, iechyd a thrafnidiaeth. Mae pysgota hefyd wedi cael ei ddatganoli, felly os nad oes gennych chi unrhyw beth i'w wneud ar nos Sadwrn, ewch i google i weld beth mae pob un o'r pleidiau'n ei feddwl am bysgota yng Nghymru. #bywbywydarydibyn.

 

Ond ar nodyn difrifol, mae'r etholiadau'n digwydd yn fuan. Peidiwch â methu'r cyfle i wneud gwahaniaeth a chael eich llais wedi'i glywed. Dwi'n gwybod fod pobl yn dweud hyn drwy'r amser, mae'n 'ffasiynol', ond mae'n wir. P'un ai ydych chi'n gwybod beth mae'r pleidiau'n sefyll drosto neu beidio, waeth i chi gofrestru na pheidio. Mae gennych chi ddigonedd o amser i benderfynu pa flwch i osod eich croes, ond rhaid i chi gofrestru erbyn 18 Ebrill. Unwaith y byddwch chi wedi methu'r dyddiad cau, dyna ddiwedd ar y mater; bydd rhaid i chi aros am bum mlynedd arall am eich cyfle nesaf i bleidleisio yn Etholiad y Cynulliad.

 

Mae'n ddigon hawdd cofrestru, ac nid yw ond yn cymryd ychydig o funudau. Mae sawl myth am gofrestru pleidleiswyr rwyf am eu chwalu!

 

Mae'n cymryd oes!

Gyfaill, mae'n cymryd llai na phum munud. Rhowch y tegell i ferwi; erbyn i chi gofrestru, gallwch gael paned i ddathlu.

 

Dydw i ddim yn 18 oed eto!

Pwyllwch; gallwch gofrestru i bleidleisio cyn belled â'ch bod chi'n 16 oed neu drosodd. Mae hyn yn wir.

 

Mae'n gymaint o ffwdan!

Peidiwch â phoeni, mae gen i bob ffydd ynoch chi. Cliciwch ar y ddolen hon https://www.gov.uk/register-to-vote

 

Mae'n debyg fy mod i angen fy rhif yswiriant cenedlaethol!

Fe ffoniais i Mam ac roedd e ganddi mewn ffolder dan y soffa, felly rhowch ganiad i'ch rhieni. Os nad ydych chi'n gallu gwneud hynny, ewch i: https://www.gov.uk/lost-national-insurance-number gallant eich helpu i gael hyd i'ch rhif. Mae gennych chi tan 18 Ebrill 2016, felly dechreuwch y broses nawr a byddwch yn gallu cofrestru mewn da bryd.

 

Dwi ddim yn Gymro, dwi ond yma i astudio.

Dydy hynny ddim yn golygu na allwch chi bleidleisio. Cyn belled â'ch bod chi'n ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys o'r Gymanwlad, neu'n ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd ac yn byw yng Nghymru, dylech gofrestru.

 

Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth......

Pe bai pawb yn meddwl hynny, yna fyddai neb yn pleidleisio, ac yn sicr, ni fyddai'n gwneud gwahaniaeth o gwbl. Y gwir yw, does dim digon o bobl ifanc wedi'u cofrestru, ac efallai mai dyna pam ei bod yn teimlo fel nad ydyn ni'n gwneud gwahaniaeth. Drwy gofrestru, rydych yn cymryd y camau cyntaf tuag at wneud y newid hwnnw.

 

Felly, nawr eich bod chi'n gwybod y gwir, ewch ati i ledaenu'r gair. Mae cofrestru i bleidleisio yn hawdd iawn ac yn eithriadol o bwysig. Pe bawn i wedi cael trefn ar bethau, yna buaswn i'n bwyta Kit Kat Chunky siocled gwyn nawr, ond wnes i ddim. Felly peidiwch â bod fel fi. Defnyddiwch eich hawl ddemocrataidd, ewch ar-lein a chofrestrwch nawr.

Categories:

Blogs, UCM Cymru

Related Tags:

pleidleisio Cymru myfyrwyr addysg

More NUS connect Articles

More Articles...