Menu

Pumed Ymgyrch Ryddhad UCM Cymru

Friday 16-10-2015 - 17:33

Mae tri mis ers i mi ddechrau'n swyddogol yn fy rôl fel Swyddog yr Iaith Gymraeg UCM Cymru, ar ôl i mi gael fy ethol yng Nghynhadledd Iaith Gymraeg UCM Cymru ym Mawrth 2015.

Hyd yma, mae'r profiad wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd pur. Rwyf yn arbennig o ddiolchgar i'm pwyllgor rhyddhad am eu cefnogaeth a'u hymroddiad; gyda phob aelod yn cyfrannu eu safbwyntiau a'u profiadau unigryw. Rwyf yn hyderus y gallwn weithio'n glòs â'n gilydd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer ymgyrch yr iaith Gymraeg.

Serch hynny, er i mi dderbyn cefnogaeth aruthrol gan fy ymgyrch fy hun, gweddill UCM Cymru, a'r ffaith fod gen i gryn lawer o optimistiaeth ar gyfer y flwyddyn hon - mae'r profiad hefyd wedi bod yn dipyn o agoriad llygad.  Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod yno gymaint o fyfyrwyr gweithredol ar draws UCM, y mwyafrif ohonynt y tu allan i UCM Cymru, nad oeddynt yn ymwybodol o'n hymgyrch ryddhad ychwanegol, fy ymgyrch i: ymgyrch yr iaith Gymraeg.

Er bod y diffyg ymwybyddiaeth yn gwbl ddealladwy, mae'n amcan personol i wneud mwy o aelodau mudiad y myfyrwyr y tu hwnt i'r ffin yn UCM DU, UCM yr Alban ac UCM-UMI yn ymwybodol o'r frwydr dros gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Y ffaith bod ein hiaith wedi goroesi; o'r ymdrech i sefydlu Deddf Llysoedd Cymru yn 1942, oedd yn caniatáu'r defnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd barn, i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, dros hanner canrif yn ddiweddarach, oedd yn rhoi'r un statws i'r Gymraeg a'r Saesneg. Ac wrth gwrs, yn ddiweddarach: Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 a lwyddodd, o'r diwedd, i gyflwyno statws swyddogol i'n hiaith yn ei gwlad ei hun. Mae'n deg dweud nad yw'r iaith wedi goroesi heb gryn lawer o anhawster.

Bu rhaid i ymgyrchwyr dros yr iaith weithio'n ddiflino i wrthsefyll ymdrechion i ormesu ein diwylliant ac effeithiau imperialaeth ieithyddol ar ein cenedl. Mae'n bwysig cofio i'r iaith Gymraeg gael ei hallgau o weinyddiaeth gyhoeddus am dros 400 mlynedd. Aethpwyd ati'n systemataidd i ddileu'r Gymraeg o fywyd cyhoeddus ac addysg, gan adael y rheiny a siaradai'r iaith ag etifeddiaeth a olygodd eu bod yn teimlo'n eilradd ac yn amharod i ddefnyddio'r iaith. Pa syndod felly nad oes cymaint o bobl yn siarad Cymraeg y dyddiau hyn o gymharu â'r oes a fu?

Ar hyn o bryd, mae tua 20% o'r rheiny sy'n byw yng Nghymru'n siarad Cymraeg, naill ai fel iaith gyntaf neu fel ail iaith; mae disgwyl i'r niferoedd hyn gynyddu. Gwelir y twf mwyaf yn y nifer o siaradwyr Cymraeg ymhlith y bobl sydd rhwng 15 a 24 oed, sef y rheiny sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â'u dyfodol, ac o bosib yn mynd i mewn i addysg bellach neu uwch. I lawer o fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg, dyma eu hiaith gyntaf; dyma sut maen nhw'n gwneud synnwyr o'r byd. Hon yw iaith y cartref a'r teulu, efallai hyd yn oed y gweithle, a dyma'r iaith maent fwyaf cyfforddus yn ei siarad. Felly, os yw myfyrwyr Cymraeg i deimlo'n wirioneddol hapus a chyrraedd eu llawn botensial, yn academaidd ac yn gymdeithasol, oni ddylen nhw allu byw eu bywydau drwy'r iaith o'u dewis?

Ond yr hyn sy'n fy nigalonni'n fwy na diffyg ymwybyddiaeth ymhlith aelodau eraill o UCM yw pa fo ambell swyddog undeb myfyrwyr yn dweud wrthyf nad ydynt yn credu y dylai'r iaith Gymraeg fod â'i hymgyrch ryddhad ei hun. Yn llawer rhy aml, clywaf sylwadau fel: "dim ond iaith yw hi, dyw hi dim fel pe bai'n eich rhywedd, eich hil, neu eich rhywioldeb" - fel pe bai iaith yn cyfrannu dim at eich teimlad o hunaniaeth. Ond dyna ble maen nhw'n anghywir. Mae'r iaith Gymraeg yn llawer mwy na dim ond modd o gyfathrebu, mae'n rhan annatod o'n hunaniaeth Gymreig. Hunaniaeth Gymreig sydd wedi cael ei gormesu. Mae'n hunaniaeth sydd angen ymgyrch er mwyn gwrthdroi blynyddoedd o ormes. I lawer o siaradwyr yr iaith, gan gynnwys fy hun, mae tynged y Gymraeg yn allweddol i oroesiad ein treftadaeth a'n diwylliant, gan ei bod ynghlwm â hunaniaeth pobl Cymru.

Erbyn hyn, mae yno amryw o fudiadau yng Nghymru, ynghyd ag UCM Cymru, sydd wedi ymrwymo i'r amcan hwn. Diben yw Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw darparu a datblygu cyrsiau cyfrwng Cymraeg ac ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru, ac mae Mentrau Iaith yn gweithio'n ddiflino i hyrwyddo'r Gymraeg mewn cymunedau lleol ledled y wlad.

Mae gan UCM Cymru draddodiad hir a balch o gefnogi hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith drwy ddarparu gwasanaeth cyfieithu mewnol, sydd nid yn unig yn darparu cyfieithu ar y pryd a dogfennaeth ddwyieithog ar gyfer eu holl ddigwyddiadau, ond sydd hefyd wedi bod yn arloesol o ran datblygu'r iaith dros y 40 mlynedd diwethaf, gan ymateb i iaith flaengar yr ymgyrchoedd rhyddhad a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith gyfoes.

Siôn Davies
Swyddog yr Iaith Gymraeg UCM Cymru

Categories:

Blogs

Related Tags :

More NUS connect Articles

More Articles...