Menu

Pleidleisiau Lloegr yn Unig

Tuesday 26-01-2016 - 12:13

Ceisiodd y Llywodraeth chwarae pob tric o fewn eu gafael i osgoi craffu priodol ar eu cynlluniau i ddiddymu grantiau cynhaliaeth - gan gynnwys ei gategoreiddio fel mater Lloegr-yn-unig.

Golygodd hyn mai'r bleidlais ddydd Mawrth oedd y defnydd cyntaf erioed o'r weithdrefn bleidleisio 'mwyafrif dwbl' dan system 'Pleidleisiau Lloegr yn Unig' (PLlU) y Ceidwadwyr. Roedd yn dacteg lechwraidd, oherwydd nad yw PLlU ond wedi bod ar waith ers pythefnos; crëwyd sefyllfa ddryslyd lle'r oedd hyd yn oed AS yn y tywyllwch o ran beth fyddai'n digwydd, neu ddim yn digwydd.

Nid oedd hyn yn golygu na fyddai AS o du allan i Loegr yn gallu pleidleisio. Yn hytrach, golygodd fod yno ddwy bleidlais, ac roedd angen i ni ennill y ddwy i atal cynlluniau'r Llywodraeth: byddai pleidleisiau'r AS i gyd yn cael eu cyfrif yn gyntaf, ac os oeddem ni'n ennill y bleidlais gyntaf honno, byddai'r canlyniad yn dibynnu ar y nifer o AS Lloegr yn Unig a bleidleisiodd. Daeth UCM yn ymwybodol o hyn ar fyr rybudd, felly hefyd AS eu hunain - daeth llawer i wybod drwyddo ni.

Ond ni effeithiodd PLlU ar ganlyniad y drafodaeth. Roedd wastad yn hanfodol bod myfyrwyr ac undebau myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn lobïo eu AS cyn y bleidlais, i'n darparu ag unrhyw obaith o achub grantiau. Heb gefnogaeth gref gan AS o'r gwledydd datganoledig, ni fyddem wedi dod mor agos ag y gwnaethom i ennill y bleidlais gyntaf, sef yr hyn fyddai wedi gorfodi'r bleidlais Lloegr yn Unig. Mae'n deyrnged i ba mor galed fu myfyrwyr ar draws y wlad yn ymgyrchu i ni ddod o fewn 11 pleidlais i orfodi ail bleidlais, a fyddai wedi ein tywys i diroedd cyfansoddiadol dieithr.

Mae'r system PLlU yn newydd, yn ddryslyd a dan dîn. Mae'n ei gwneud ddwywaith mor anodd i unrhyw un sy'n gwrthwynebu'r Llywodraeth, ond yn rhoi dau gyfle iddyn nhw gau allan eu gwrthwynebwyr: nid yn unig sydd rhaid i unrhyw un sy'n eu herio ennill, rhaid iddynt ennill  ddwywaith. Nid yn unig hynny, ond mae gwallau enfawr o ran sut caiff materion eu categoreiddio fel Lloegr-yn-Unig, rhywbeth a amlygwyd gan y ddadl hon. Mae llawer o fyfyrwyr o Loegr yn astudio yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, na fyddent wedi cael eu cynrychioli pe bai ail bleidlais wedi ei chynnal. Roedd UCM yn ymladd yn galed i herio'r penderfyniad hwn cyn y drafodaeth - bu Beth Button a Vonnie Sandlan, Llywyddion UCM Cymru a'r Alban, yn herio Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn uniongyrchol - a byddwn yn ymladd yn galed i amlygu'r beiau hyd yn oed nawr fod y mater wedi mynd drwy'r Senedd.

Mae'n fwriad gan y Llywodraeth i ddefnyddio mwy a mwy ar PLlU, gan fod hyn yn rhoi mantais iddynt cyn dechrau ar unrhyw drafodaeth. Mae'n system gymhleth y bydd angen i ni - fel llawer o AS - ymgyfarwyddo â hi os ydym i lwyddo mewn herio polisïau gelyniaethus y Llywodraeth. Bydd UCM yn cynhyrchu dogfen briffio ar gyfer myfyrwyr ac undebau myfyrwyr ynglŷn â PLlU yn fuan, a byddwn yn gweithio'n glòs â chyd-weithwyr ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gasglu tystiolaeth ynglŷn â sut fydd gwahanol bolisïau y cyfeirir atynt fel Lloegr-yn-Unig yn effeithio ar fyfyrwyr, ble bynnag fyddant yn y DU.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â PLlU, gallwch gyfeirio at yr adnodd hwn.

Byddwn hefyd yn cynyrchu gwybodaeth bellach - mae croeso i chi gysylltu â ni (public.affairs@nus.org.uk) os gallwn eich helpu ag unrhyw gwestiynau.

Categories:

Features, NUS Wales

Related Tags:

More NUS connect Articles

More Articles...