Menu

Myfyrwyr, beth mae Brexit yn ei olygu iddyn nhw?

Wednesday 02-03-2016 - 17:07

Dangosodd ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) y byddai 77% o'r myfyrwyr a holwyd yn pleidleisio i aros yn yr UE pe bai'r bleidlais yn cael ei chynnal yfory.

Tra bod y nifer hwn yn rhywbeth i'w ddathlu, o edrych yn fanylach ar y data, dywedodd amryw o'r myfyrwyr hynny nad oeddent wedi rhoi llawer o feddwl i'r refferendwm. I mi, roedd hwn yn arwydd o un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu yn y misoedd sy'n arwain at y refferendwm - sut i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu haddysgu a'u hannog i gyfranogi yn y broses.

Credaf fod gan fyfyrwyr rôl hanfodol i'w chwarae yn y refferendwm hwn.

Nid yn unig oherwydd ei bod yn eglur y byddai gadael yr UE yn cael effaith enfawr ar addysg bellach ac uwch yn y DU, ond oherwydd dylai myfyrwyr fod yn ddinasyddion gweithredol mewn cymdeithas, a rhaid iddynt ffurfio'r drafodaeth sy'n dylanwadu ar y refferendwm hwn.

Ond os ydyn ni am i fyfyrwyr gyfrannu at y drafodaeth hon, rhaid i ni ail lunio'r naratif sy'n ei hamgylchynu. Gydol y drafodaeth sy'n mynd rhagddi ynglŷn ag oblygiadau 'Brexit' ar addysg uwch, mae trafodaethau wedi canolbwyntio'n bennaf ar gynhyrchedd economaidd, gallu ymchwil a chyllido o fewn y DU. Tra bod y rhain yn bwysig, mae'r drafodaeth gyhoeddus hyd yma wedi methu mynd i'r afael â'r effaith uniongyrchol ar fyfyrwyr y presennol a'r dyfodol. Mae methu gwneud hynny'n bygwth cau'r rheiny sydd â chymaint i'w golli allan o'r drafodaeth. Mae'n methu cyfle i ymgysylltu â chenhedlaeth o fyfyrwyr.

Mae tystiolaeth bod y gallu i astudio dramor o fudd hir dymor i'r unigolion hynny sy'n cyfranogi - o ran eu cyflogaeth yn y dyfodol, ac o ran datblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ddiwylliannau a chymdeithasau eraill.

Serch hynny, ar hyn y bryd y DU sydd â'r lefel ail isaf yn Ewrop o ran symudedd myfyrwyr tuag allan. I mi, mae hyn yn nodweddiadol o gymdeithas sydd eisoes yn ynysol, lle mae'r lleihad mewn dysgu ieithoedd tramor modern wedi cyfrannu ymhellach at amharodrwydd i astudio dramor. Tra bod cynllun Erasmus wedi bod yn llwyddiannus mewn cynyddu symudedd cenedlaethau o fyfyrwyr, byddai gadael yr UE yn bygwth cyfyngu ymhellach ar gyfleoedd o'r fath, a lleihau ymhellach symudedd poblogaeth myfyrwyr sydd eisoes yn statig. Ynghyd â hyn, mae myfyrwyr y DU ar hyn o bryd yn elwa o ffioedd cryn lawer rhatach ar draws y rhan fwyaf o Ewrop. Serch hynny, byddai tynnu allan o'r UE yn cynyddu cost astudio yn Ewrop, gan gyfyngu ymhellach ar fanteision symudedd tuag allan i fyfyrwyr y DU, gan sicrhau nad yw astudio yn Ewrop ond yn opsiwn i fyfyrwyr cefnog.

Mae rhyddid symudedd o fudd nid yn unig i'r unigolyn ond hefyd i gymdeithas a'r economi - mae rhyddid myfyrwyr i symud tuag allan yn hanfodol mewn paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithle sy'n mynd yn fwyfwy byd-eang, yn ogystal â sicrhau y gall y DU gyfranogi'n weithredol yn yr economi fyd-eang hon. Gyda'r lefel bresennol o gydweithrediad ymysg gwneuthurwyr Ewropeaidd a byd-eang, mae llawer o'r economi wybodaeth a gaiff ei meithrin gan ein system addysg yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer swyddi nad ydynt yn bodoli yn y DU. Mae'r gallu i symud yn ddirwystr yn fwy hanfodol fyth mewn mudiadau lle mae swyddi'n galw am symud rheolaidd rhwng gwahanol wledydd - ac mae llawer o gynlluniau graddedigion yn dibynnu ar symudedd y graddedigion hynny o fewn Ewrop. Mae gallu'r DU i gystadlu'n deg yn y farchnad gwneuthurwyr Ewropeaidd a byd-eang yn dibynnu ar allu'r cyflogwyr hyn i symud yn rhydd, ac ar weithlu sydd hefyd yn gallu symud yn ddirwystr.

Byddai lleihad yn symudedd myfyrwyr tuag allan yn cael ei adlewyrchu gan ostyngiad yn y nifer o fyfyrwyr yr UE sy'n dod i'r DU i astudio. Mae yma ar hyn o bryd 125,000 o fyfyrwyr yn y system addysg uwch yn y DU sy'n dod o Ewrop, sy'n dod â gwybodaeth, sgiliau ac amrywioldeb diwylliannol gyda nhw. Tra bod ffioedd y DU yn parhau i fod yn uwch na gweddill yr UE, mae myfyrwyr yr UE yn elwa o dalu'r un ffioedd â myfyrwyr cartref, yn hytrach na'r ffioedd uwch a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol. Byddai gadael yr UE yn arwain at fyfyrwyr o weddill yr UE yn talu ffioedd myfyrwyr rhyngwladol, sydd o leiaf £13,000 y flwyddyn. Er y gall hyn swnio'n ddeniadol i rai prifysgolion yn y DU, mae gor-ddibyniaeth ar ffioedd myfyrwyr rhyngwladol fel ffynhonnell incwm eisoes yn anghynaladwy. O gofio'r gwahaniaeth mewn cost addysg o gymharu â gweddill Ewrop, mae'n debygol pe baent yn gorfod talu ffioedd myfyrwyr rhyngwladol, y byddai lefelau recriwtio myfyrwyr o'r UE yn disgyn yn sylweddol.

Serch hynny, nid dim ond yr oblygiadau ariannol i fyfyrwyr yr UE fyddai'n debygol o beri lleihad mewn recriwtio myfyrwyr. Mae Prydain eisoes yn fwyfwy digroeso fel gwlad i astudio ynddi oherwydd rheolau mewnfudo llym. Byddai tynhau'r rheolau visa ymhellach o ganlyniad i golli statws UE yn debygol o ddarbwyllo mwy o fyfyrwyr yr UE rhag dewis astudio yn system addysg uwch y DU. Byddai rheolau mewnfudo llymach yn debygol o arwain at gymunedau'n mynd yn fwyfwy gelyniaethus, gan gyfyngu ymhellach ar fanteision symud i'r DU, boed i astudio neu i weithio. Byddai myfyrwyr y DU sy'n dymuno astudio yn Ewrop yn canfod rhwystrau ariannol a chorfforol cyffelyb, gan wneud astudiaeth fforddiadwy y tu allan i'r DU yn anoddach.  

Mae rhannu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd, ar ffurf symudedd myfyrwyr ac academyddion tuag i mewn a thuag allan wedi'i alluogi drwy aelodaeth o'r UE yn hanfodol er mwyn i'r DU ddatblygu economi wybodaeth gystadleuol mewn gweithle sy'n mynd yn fwyfwy byd-eang.

Ond rhaid i ni annog symudedd er mwyn astudio a dysgu, nid yn unig i hyrwyddo cyfleoedd academaidd ac economi wybodaeth, ond hefyd i annog cenhedlaeth o ddinasyddion y byd a meithrin cydlyniad cymdeithasol.

Fel gyda sawl agwedd o'r drafodaeth, pan fyddwn ni'n edrych yn fanwl ar fanteision symudedd myfyrwyr, i'r unigolyn ac i gymdeithas, gall fod yn hawdd gorbwysleisio'r elfen economaidd. Serch hynny, mae'n anodd mesur y manteision cymdeithasol a diwylliannol, er mai'r rhain sy'n aml yn darparu'r canlyniadau mwyaf gwerthfawr.

Mae rhyddid symudedd wedi rhoi i ni gymunedau a champysau amrywiol. 

Mae wedi galluogi'r cenedlaethau ieuengaf i brofi taith addysgol ochr yn ochr â myfyrwyr ac academyddion o bob cwr o'r byd, gan ymestyn eu gwybodaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol a chymdeithasol. Mae wedi cyfrannu at greu cymunedau cydlynol a chymdeithas oddefgar. Byddai Brexit nid yn unig yn cyfyngu ar amrywioldeb ein campysau, ond hefyd yn bygwth gwrthdroi diwylliant rhyngwladol  ein system addysg, sy'n edrych tuag allan.

Ond mae myfyrwyr yn gofidio am fwy na dim ond effaith Brexit ar eu cymunedau addysgol, maent yn pryderu am yr ynysoldeb o fewn cymdeithas a allai ddeillio o hyn. Mae fy nghenhedlaeth i wedi'i chysylltu â phobl ifanc o amgylch y byd yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae gennym rwydweithiau byd-eang sy'n ymgyrchu ar y cyd ar faterion byd-eang - nid ydym yn ofni'r byd amrywiol, rhyngwladol hwn; rydym yn ofni cael ein hynysu.

Mewn byd sy'n mynd yn fwyfwy ansicr, mae cydweithredu a chyfathrebu'n bwysicach nag erioed, a thra byddai Brexit yn cau'r sianel hon ar unwaith, y weithred symbolaidd o ynysoldeb a'r neges mae hynny'n ei anfon i weddill y byd, sy'n peri'r pryder mwyaf i'r genhedlaeth ifanc.

I mi, ac i lawer o bobl ifanc, mae'r refferendwm hwn yn ymwneud â mwy na'r economi ac ystadegau - mae'n ymwneud â gwerthoedd ac egwyddorion, mae'n ymwneud â diwylliant a chydweithredu. Mae fy nghenhedlaeth i'n ystyried y ddadl economaidd i fod yn bwysig wrth gwrs, ond rydym hefyd yn malio am ein hawliau sylfaenol, fel gweithwyr, fel rhieni'r dyfodol, fel dinasyddion gweithredol. Hefyd ein gallu i ddod at ein gilydd fel pobl ifanc o bob rhan o Ewrop i weithio ar y cyd i wneud Ewrop a'r byd yn lle gwell.

Does unman lle mae hyn yn fwy amlwg nag yn fy ngwaith gydag Undeb Myfyrwyr Ewrop (UME), lle mae cynrychiolwyr myfyrwyr o ledled Ewrop yn cwrdd yn rheolaidd i ddylanwadu ar ffurfio polisi addysg ar lefel Ewropeaidd a byd-eang, gan gryfhau hawliau myfyrwyr. Gallwn ddylanwadu'n uniongyrchol ar waith UME, ac mae cyfranogiad UCM DU yng ngweithgareddau UME yn sicrhau bod gennym ni, fel myfyrwyr, lais mewn penderfyniadau a wneir ar lefel Ewropeaidd. Mae cyllid ar gael i ni gan yr UE ar gyfer prosiectau cydweithredol gyda gwledydd eraill; rydym yn gweithio mewn partneriaeth i wella'r system addysg Ewropeaidd ac rydym yn cydweithredu mewn prosiectau cyfiawnder cymdeithasol.

Sefydlwyd yr UE yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd er mwyn meithrin heddwch a chydlyniad, ac mae UME yn sefydliad hanfodol bwysig er mwyn hyrwyddo'r egwyddor hon. Fel fforwm sy'n galluogi myfyrwyr i fod yn flaenllaw mewn cydweithrediad a chydlyniad rhyngwladol, mae Undeb Myfyrwyr Ewrop yn dangos ein bod ni, fel cenhedlaeth, yn awyddus i weithio gyda'n gilydd dros fyd heddychlon. I mi, dyma un o'r prif fanteision sy'n perthyn i'n lle ni yn Ewrop.

Mae bod yn rhan o Ewrop yn cynnig cymaint i fyfyrwyr, o swyddi ac addysg i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol. Tra bod llawer o'r myfyrwyr a holwyd yn arolwg HEPI heb ystyried pam y byddent yn pleidleisio, i mi mae hynny'n adlewyrchiad o genhedlaeth a dyfodd i fyny o fewn yr UE. Does dim syndod felly pan holwyd nhw, nad oeddent o bosib wedi ystyried pam bod ganddynt y fath ffydd yn y sefydliad. Mae myfyrwyr a phobl ifanc wedi elwa'n aruthrol, boed ar ffurf cyfleoedd addysgol, neu fuddsoddiad uniongyrchol gan yr UE mewn cronfeydd cyflogaeth megis Twf Swyddi Cymru. Ond hyd yn oed ar lefel sylfaenol iawn, mae myfyrwyr ar eu hennill bob blwyddyn o aelodaeth o'r UE, pe bai ond y ffaith ei bod yn hawdd, a chymarol rad, i deithio ar draws y cyfandir. Faint o fyfyrwyr sy'n mynd ar daith i Salou, mynd i sgïo i'r Alpau, neu'n ymweld â dinasoedd i astudio fel rhan o'u cyrsiau bob blwyddyn? Tra'i bod yn bosib bod llawer o fyfyrwyr wedi cymryd yr UE yn ganiataol hyd nawr, gallaf eich sicrhau y byddai'r posibilrwydd o gynnydd yng nghost hedfan a cholli'r profiad inter-rail hwylus yn ddigon o gymhelliant i hyd yn oed y myfyrwyr mwyaf sinigaidd i gymryd diddordeb.

Felly rhaid i'r drafodaeth ynglŷn â'n haelodaeth barhaus o'r UE ddechrau siarad â phobl ifanc a myfyrwyr am y materion hynny sy'n bwysig iddyn nhw - eu cyfloedd am waith yn y dyfodol, amddiffyniad o'u hawliau a'r cyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol dramor.

Ond rhaid i fy nghenhedlaeth i dalu sylw a gwrando, cyn y gwneir y penderfyniad hwn drostyn nhw.

Categories:

Blogs, UCM Cymru

Related Tags:

More NUS connect Articles

More Articles...