Menu

Mae'r drysau ar agor, ond a oes unrhyw newid?

Wednesday 28-09-2016 - 10:58

Wrth i lawer o undebau myfyrwyr groesawu myfyrwyr yn ôl, ym Mae Caerdydd, mae dyfodol cyllido myfyrwyr yn bwnc llosg i Lywodraeth Cymru. A minnau wedi byw a bod Adolygiad Diamond yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i am sôn am y pethau y dylech roi cryn ystyriaeth iddynt.

Os darllenoch chi flog Fflur ddoe, byddwch yn gwybod bod Adolygiad Diamond yn cyhoeddi ei argymhellion ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru. Rydw i am dreulio amser yn adlewyrchu ar yr hyn mae'r argymhellion yn ei gyflawni. Pan gomisiynwyd yr adolygiad gan y Gweinidog Addysg blaenorol, Huw Lewis, ei fwriad oedd gweld system sy'n ehangu mynediad, yn cynorthwyo anghenion sgiliau Cymru ac yn cryfhau'r ddarpariaeth ran amser ac ôl-raddedig, yn ogystal â bod yn ariannol gynaliadwy.

Felly mae'r system bresennol yn un sy'n gwarchod myfyrwyr o Gymru rhag effaith lawn £9,000 o ffioedd. Pan dreblwydd y ffioedd dysgu gan Lywodraeth y DU yn 2012 i £9,000, cyflwynodd Llywodraeth Cymru grant ffioedd dysgu o £5,100 nad oes rhaid ei ad-dalu. Roedd hyn yn wych i fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru. Ond dros gyfnod, mae mwy o fyfyrwyr nag erioed o'r blaen wedi mynd i'r brifysgol, a bellach mae cymhorthdal y ffioedd dysgu'n costio £237 miliwn i Lywodraeth Cymru (ac mae hyn yn cynyddu bob blwyddyn). Ar ben hynny, mae tua £100 miliwn o'r ffigwr hwn wedi mynd i brifysgolion yn Lloegr pan fo myfyrwyr Cymru'n mynd dros y ffin. Y ddadl sydd wastad wedi bod yw na allwn fforddio anfon cymaint o arian i goffrau prifysgolion Lloegr, gyda chyllideb addysg sydd eisoes yn dioddef o ddiffyg ariannu. Yn sgil hyn, comisiynwyd ‘Adolygiad Diamond’ gan Lywodraeth Cymru.

Ar yr un pryd, canfu adroddiad “Punt yn eich poced” gan UCM Cymru fod 63% o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru ‘yn gofidio'n aml am fod yn brin o arian i dalu treuliau byw cyffredinol, fel rhent a biliau'r tŷ’ a bod ‘trafferthion ariannol yn gorfodi myfyrwyr i ystyried gadael eu cwrs.’

Mae'r sefyllfa ariannol i lawer o fyfyrwyr wedi mynd yn anghynaladwy. Mae rhai myfyrwyr yn dibynnu ar fenthyciadau diwrnod cyflog i dalu costau byw sylfaenol. Gorddrafftiau yw'r math mwyaf cyffredin o ddyled yr aethpwyd iddo, gyda 48% o israddedigion yn datgan eu bod nhw wedi mynd i'r math hwn o ddyled fasnachol ers dechrau eu cwrs. Yn ogystal â hynny, mae 20% o ôl-raddedigion wedi mynd i ddyledion ar ffurf cardiau credyd. Canfu'r ymchwil hefyd mai myfyrwyr o gefndiroedd is eu cyfranogiad a myfyrwyr hŷn yw'r rheiny sydd fwyaf tebygol o fod â dyledion o fwy na £5,000 yn ogystal â'u dyledion o gyllid myfyrwyr.

Mae dyled bellach yn beth cyffredin i fyfyrwyr. Ac nid benthyciadau gan y llywodraeth mo'r rhain, ond dyled breifat gyda llog uchel a all godi a chostio llawer mwy yn y dyfodol. Hyd yn oed pan gaiff ei rheoli'n dda, gall y ddyled fasnachol hon atal graddedigion rhag cael tenantiaeth a benthyciadau ar gyfer ceir a chartrefi am flynyddoedd i ddod. Pan ddaw dyled yn beth cyffredin i bobl ifanc, rydym yn gwybod bod angen i bethau newid. Mae'r system arfaethedig yn gwneud cryn lawer i leddfu'r pwysedd beunyddiol o dalu costau byw drwy gynnig pecyn cynhaliaeth llawer mwy hael - wedi'i anelu at y rheiny a fyddai wedi mynd i'r mathau mwyaf peryglus o ddyled fasnachol. Bydd y pecyn cynhaliaeth mwy hael wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'r Cyflog Byw Cenedlaethol, ar sail 37.5 awr yr wythnos am gyfnod o 30 wythnos.

Mae Diamond wedi cynnig sawl argymhelliad a fyddai'n arwain at ddileu'r cymhorthdal ffioedd dysgu, os cânt eu gweithredu fel pecyn. Ond yn eu tro, byddai'n cynnig cymorth penodol ychwanegol. Mae'r adroddiad yn argymell bod pobl sy'n gadael gofal yn gallu derbyn y grant cynhaliaeth llawn o £8,100 y flwyddyn academaidd yn awtomatig, beth bynnag fo'u hincwm teuluol. Mae hyn yn fuddugoliaeth enfawr a chyffrous i'r bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas. Yn aml cânt eu cau allan o addysg am nad oes modd iddynt ei fforddio.

Blaenoriaeth i mi eleni fydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weld a fydd modd ymestyn yr argymhelliad hwn i gynnwys myfyrwyr sy'n gofalu, heb gyflog, am rywun yn eu teulu neu ffrind sy'n sâl, yn fregus, yn anabl neu'n dioddef problemau iechyd meddwl neu sy'n gaeth i sylweddau. Yn swyddogol, mae 29,000 o ofalwyr dan 25 oed yng Nghymru, ond mae'n debygol fod y gwir ffigwr yn llawer uwch. Roeddwn i'n gofalu am fy nhad sy'n dioddef dementia o 15 ymlaen tra'r oeddwn yn fyfyrwraig yn yr ysgol, yn y coleg ac yn y brifysgol. Rydw i wedi cael profiad o'r rhwystrau beunyddiol a all beri i ennill cymhwyster fod yn her sylweddol fel gofalwr. Ers i mi ddod yn Ddirprwy Lywydd, rydw i wedi cyfarfod ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac wedi mynychu eu Rhwydwaith Oedolion Ifanc sy'n Gofalu i gychwyn trafodaethau ynghylch gwneud i addysg fod yn fwy hygyrch a chefnogol i ofalwyr. Bydda i'n parhau i drafod â Llywodraeth Cymru i droi'r trafod hwn yn realiti.

Mae'r argymhellion hyn yn fuddsoddiad uniongyrchol ym mhocedi myfyrwyr mewn cyfnod pan mae ei angen arnynt fwyaf. Mae angen mwy na chymorth ar fyfyrwyr i fynd trwy ddrysau disglair addysg uwch. Mae angen cymorth arnynt hefyd gydol eu cyfnod astudio. Mae costau byw cynyddol sylweddol mewn cyfnod o gyni cyllidol yn amlwg wedi taro myfyrwyr yn ogystal â Chymru gyfan. Mae gan Orllewin Cymru a'r Cymoedd enw am fod y rhanbarthau tlotaf yng Ngogledd Ewrop. Mae angen i'n system gyllido addysg adlewyrchu cyd-destun cymdeithasol a sefyllfa ariannol Cymru.

Os caiff yr argymhellion hyn eu gweithredu fel pecyn, bydd yn gam yn nes at system gyllido deg a chyfiawn. Maen nhw'n ymateb i anghenion presennol myfyrwyr o Gymru yn eu mesurau cynorthwyo ynghylch grantiau cynhaliaeth uwch i dalu costau byw. Yn enwedig pan ystyrir cost gyfannol addysg h.y. gorddrafftiau a benthyciadau diwrnod cyflog. Yn fy marn i, mae addysg o fudd i'r cyhoedd ac mae'n haeddu buddsoddiad a pharch priodol. Ni ddylai myfyrwyr orfod goddef y dyledion sylweddol hyn i gydbwyso llyfrau'r llywodraeth. Ni all Llywodraeth Cymru ond codi 6.6% o'i chyllideb flynyddol a than i Lywodraeth y DU fuddsoddi mwy mewn addysg neu'n datganoli rhagor o bwerau i Gymru, mae cryn lawer o ffordd ar ôl i gyrraedd addysg ddi-dâl.

Cysylltwch â mi os ydych chi am drafod yr argymhellion.

Categories:

Blogs, UCM Cymru

Related Tags:

More NUS connect Articles

More Articles...