Menu

Mae'r dal i fod angen i ni fenywod hawlio'r nos yn ôl

Friday 31-03-2017 - 00:00

Mae'r frwydr dros gydraddoldeb a'r angen i ni hawlio'r nos yn ôl mor bwysig ag erioed, meddai Llywydd-etholedig a Swyddog Menywod cyfredol UCM Cymru, Ellen Jones.

Mae miloedd o fenywod yn dechrau cyrsiau mewn colegau a phrifysgolion ar draws y Deyrnas Gyfunol bob blwyddyn, llawn gobaith a chyffro ar gyfer yr hyn o’u blaenau. Efallai’u bod nhw wedi symud i dref newydd, byddan nhw’n gwneud ffrindiau newydd, a byddant yn edrych ymlaen at astudio cwrs fydd yn eu helpu i wireddu eu breuddwydion.

Ond o fewn wythnos gynta’r tymor, bydd bron pumed ohonynt yn dioddeb rhyw fath o aflonyddu neu ymosodiad rhywiol – a bydd bron traean yn gweld rhywun arall yn profi aflonyddu rhywiol.

Mae’n erchyll fod y math yma o ymddygiad yn digwydd mor gyson, a bod rhai pobl yn ei ystyried yn normal.

Dyna pam y bydd menywod yn dod ynghyd heno yng Nghaerdydd ar gyfer rali a gorymdaith Hawlio'r Nos yn Ôl flynyddol UCM Cymru. Bydd yn gyfle i ni herio'r rhywiaeth, ymosodiadau, camdriniaeth a gormes rydyn ni'n eu hwynebu'n rheolaidd yn y cartref, yn y gwaith, yn yr ystafell ddosbarth ac ar draws cymdeithas gyfan.

Dechreuodd Hawlio'r Nos yn Ôl yn y DU ar ôl i Peter Sutcliffe lofruddio menywod ifanc a gweithwyr rhyw yn ardal Leeds yn y 1970au. Y cyngor a roddwyd i fenywod ifanc gan yr heddlu ar y pryd oedd i beidio â mynd allan wedi nos er eu diogelwch eu hunain.

Doedd hynny ddim o gymorth mewn gwirionedd, yn arbennig i'r menywod ifanc hynny oedd yn ymwneud â gwaith rhyw; doedd ganddyn nhw ddim llawer o ddewis ynglŷn â mynd allan wedi nos.

Trefnwyd gorymdeithiau Hawlio'r Nos yn Ôl gan fenywod oedd am wneud y pwynt bod ganddynt bob hawl i deimlo'n ddiogel wedi nos, ac nad oedd y cyfrifoldeb am osgoi trais rhywiol a threisio ar fenywod i wisgo'n gymhedrol ac yfed yn bwyllog, ond yn hytrach ar ddynion i beidio â threisio.

Mae'n bosib eich bod chi'n credu mai hen hanes yw hyn. Ond os ydych chi'n ddynes ac yn mynd allan wedi nos, yng Nghymru heddiw, mae'n bur debyg y byddwch chi'n teimlo'r un fath â'r rhan fwyaf o fenywod: dan fygythiad.

Mae ein byd yn parhau i fod yr un mor beryglus ac anghyfartal i fenywod a merched. 

Yn Ionawr, urddwyd Arlywydd yr UD sydd â safbwynt sarhaus tuag at fenywod; dyn sy'n defnyddio geiriau fel 'gast' neu 'hwch' i'n disgrifio. Cofiwch iddo hefyd ddweud “grab ‘em by the pussy”.

Yn ogystal â hyn, y ffaith y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ymhen dwy flynedd. Byddwn yn gadael Undeb Ewropeaidd sydd wedi bod yn eithriadol o ddylanwadol mewn datblygu hawliau menywod, nid dim ond yma yn y DU, ond ar draws y 28 gwlad sydd mewn aelodaeth. Golyga gadael yr Undeb Ewropeaidd adael Cyflog Cyfartal am Waith Cyfartal a thâl mamolaeth yn nwylo llywodraeth Geidwadol sydd â'i bryd ar dorri'n ôl ar weinyddiaeth.

Mae hwn yn gyfnod anodd a pheryglus i fod yn ddynes. Ond mae menywod nawr yn gwneud yr un fath â menywod drwy hanes, fel y Suffragettes a'r menywod yn Ffrainc a wnaeth gyfraniad allweddol fel rhan o'r Gwrthsafiad yn erbyn y Nazïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rydyn ni'n gwrthsefyll.

Ar 21 Ionawr, gwelwyd y gwrthdystiad mwyaf, a'r mwyaf heddychlon, yn hanes yr UD yn ôl rhai arbenigwyr gwleidyddol. Sbardunwyd Gorymdaith y Menywod ar draws yr UD - a ledaenodd ar draws y byd, gan gynnwys Caerdydd a Bangor - mewn ymateb i urddo dyn sydd â hanes o ragfarnau a chasineb at fenywod. Gorymdeithiodd y menywod hyn gyda'u chwiorydd LHDT+, eu chwiorydd CALlE, a'u chwiorydd sy'n ymfudwyr.

Os ydych chi'n siarad â rhai pobl, byddant yn dweud wrthych nad yw hawliau menywod bellach yn fater o bwys, neu fod y frwydr dros gydraddoldeb menywod drosodd, a bod cydraddoldeb rhwng y naill rywedd a'r llall wedi cael ei sicrhau. Allai dim byd fod ymhellach o'r gwirionedd. Mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain.

Mae un o bob chwech o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi dioddef profiad homoffobig neu ddeuffobig, neu drosedd casineb, yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, yn ôl ymchwil gan Stonewall. Yn ogystal â hynny, mae 38% o bobl draws wedi dioddef bygythiadau corfforol.

A thra bod trais yn erbyn menywod yn mynd y tu hwnt i wahanol grwpiau ethnig, mae menywod Croenddu a Lleiafrifoedd Ethnig (CLlE) yn wynebu mathau ychwanegol o drais ar sail rhywedd, sy'n cael eu dwysáu gan agweddau hiliol cymdeithas. Mae mwy i hyn na dim ond gormes ar ffurf trais rhywiol neu gorfforol.

Gan ddadlau bod dynion gwyn megis "rhywogaeth sydd mewn peryg" yn ystafell y bwrdd, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Tesco, John Allan: "Os ydych chi'n ddynes ac o gefndir ethnig - gorau oll os ydych chi'r ddau - yna rydych chi mewn sefyllfa ffafriol dros ben."

Hyn, er gwaethaf y ffaith ei fod yn arwain bwrdd cyfarwyddwyr sy'n cynnwys tair gwaith mwy o ddynion na menywod. Ac er gwaethaf ymchwil gan gwmni recriwtio Egon Zender, sy'n awgrymu bod y raddfa ar gyfer gwelliant mewn amrywiaeth rhyweddol wedi gostwng yn y DU am y tro cyntaf ers y dechreuwyd casglu data yn 2004.

Ac wrth ysgrifennu ar gyfer Raconteur fis Rhagfyr diwethaf, roedd hyd yn oed Margot James, Gweinidog y Llywodraeth dros Fusnesau Bach, Defnyddwyr a Chyfrifoldeb Corfforaethol, yn cydnabod "tra bod 14 y cant o'r boblogaeth yn diffinio'u hunain fel croenddu neu'n perthyn i leiafrif ethnig, dim ond 1.5 y cant o gyfarwyddwyr ar fyrddau'r FTSE 100 sy'n ddinasyddion y DU ac o gefndir lleiafrifol. Mae dros hanner byrddau'r FTSE 100 yn gyfangwbl groenwyn."

Felly, peidiwch â gadael i ni dwyllo ein hunain bod y frwydr drosodd. 

Yn eu hysbryd hwy, ac yn ysbryd yr holl fenywod dewr a aeth o'n blaenau, byddwn heno'n gweiddi, "Strydoedd pwy? Ein strydoedd ni!" Gyda'n gilydd, gallwn wrthsefyll. Nawr - heddiw - yw'r amser i ni sefyll gyda'n gilydd a pharhau i frwydro dros fyd gwell, diogel a chyfartal.

Bydd gorymdaith Hawlio'r Nos yn Ôl flynyddol UCM Cymru'n dechrau o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd heno am 7.45pm, gyda rali a chyfle i wneud placardiau o 6:30pm. Mae rhaor o wybodaeth ar gael yma.

Categories:

Blogs, UCM Cymru

Related Tags:

More NUS connect Articles

More Articles...