Menu

Mae myfyrwyr yng Nghymru'n troi'n wyrdd

Monday 18-04-2016 - 16:07
Cop cy

Ydych chi'n meddwl bod myfyrwyr yn pryderu am ddyfodol y blaned hon? Ydyn ni'n poeni am y cynnydd yn nhymeredd y byd? Ydyn ni'n gofalu am gynaladwyedd, tyfu cynnyrch a gweithio yn ein cymunedau i greu byd gwell?

 

Bob blwyddyn, mae UCM yn cynnal arolwg addysg uwch lle rydyn ni'n gofyn sawl cwestiwn.  Dyma rai o'r prif ganfyddiadau:

  • Mae 80% o fyfyrwyr am i'w sefydliad fod yn fwy cynaliadwy.
  • Mae 60% o fyfyrwyr yn meddwl bod cynaladwyedd yn broblem bwysig ac maen nhw am ddysgu mwy amdano; hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn ei astudio.
  • Mae 70% o fyfyrwyr yn poeni am effeithiau newid hinsawdd.
  • Byddai 70% o fyfyrwyr yn derbyn £1,000 llai na chyfartaledd y flwyddyn pe baen nhw'n gweithio dros gwmni sydd â hanes cymdeithasol ac amgylchedd cryf. Byddai 50% yn derbyn toriad o £3,000.

 

Yn amlwg, mae myfyrwyr yn gofalu. Mae ein byd a'n dyfodol yn bwysig i ni. Oherwydd penderfyniadau'r rheiny sydd mewn grym nawr fydd yn creu ein dyfodol.

 

Felly, beth ydyn ni'n mynd i wneud i ddylanwadu ar y penderfyniadau hyn?

 

Pre Cop21

 

UCM Cymru yw un o'r 14 o fudiadau dylanwadol yng Nghymru sy'n creu cynghrair Atal Anrhefn Hinsawdd Cymru. Gyda'n gilydd, cyflwynom ni'r digwyddiad ‘Diwrnod Gweithredu Hinsawdd Cymru - Pedalu er y Blaned’ ar 28 Tachwedd 2015. Daeth dros 800 o bobl i Fae Caerdydd i seiclo ac i ymdeithio, gan gynnwys cynrychiolwyr o Undeb Myfyrwyr Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd i bwyso am well dyfodol ac i fynnu gweithred ar newid hinsawdd.

Yna roedd ymgyrch AAHC, ‘Arbedwch y blaned. Dyma'r unig un â siocled arni!’ Creodd tri deg o gaffis ledled Cymru, gan gynnwys 2 ym Mhrifysgol Caerdydd, ddysgl ‘Arbennig Newid Hinsawdd’ gan ddefnyddio siocled Masnach Deg. Coco yw un o'r eitemau bwyd sydd dan berygl o achos newid hinsawdd. Caiff 70% o'r coco ei dyfu yn Ghana ac yn Arfordir Ifori, lle yn ôl y rhagamcan, bydd cynnydd o 2 radd yn ei wneud rhy boeth a rhy sych i goed coco dyfu, sy'n golygu y gallai siocled ddiflannu yn y pen draw! A byddai hynny'n drychineb go iawn.

 

Beth sy'n digwydd yng Nghymru ar ôl Cop21?

 

Ar 9 Rhagfyr 2015, es i ddigwyddiad Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru ynghylch yr Ymrwymiad i Weithredu. Roedd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, ac ASau o bleidiau eraill (ac eithrio UKIP a wnaeth wrthod dod) hefyd yn bresennol.

 

Cyflwynais i araith ar gynaladwyedd gan dynnu sylw at bwysigrwydd ein gwaith fel mudiad ar y cyd;

 

"Mae adran elusen UCM yn cynnal mentrau cynaladwyedd gan weithio gyda phrifysgolion, myfyrwyr, undebau myfyrwyr a mudiadau partner lleol i wella cynaladwyedd mewn cymunedau, ar gampysau ac yn y cwricwlwm trwy raglenni fel Effaith Gwyrdd a Myfyrwyr yn Diffodd.  Rydym hefyd yn hybu addysg er datblygu cynaladwyedd trwy ein marc achredu arloesol, Responsible Futures. Mae'n bwysig sicrhau ein bod ni'n ennyn diddordeb y rheiny o bob maes yng nghynaladwyedd ac nid y ‘pynciau arferol’ yn unig, sef gwyddoniaeth a daearyddiaeth”

 

Hefyd, tynnais sylw at y ffaith bod:

 

"…myfyrwyr sy'n gweithredu ledled y byd yn galw ar eu prifysgol i dynnu eu harian o danwyddau ffosil, mewn un o'r ymgyrchoedd cyfiawnder cymdeithasol sy'n tyfu gyflymaf erioed. Mae'r UMau'n clywed y neges hon ac yn pasio cynigion i'w prifysgolion ddadfuddsoddi o danwydd ffosil h.y. mae Prifysgol Caerdydd ac Abertawe wedi pasio cynnig i ddadfuddsoddi. Bydd UCM yn darparu rhai adnoddau fel bod modd i ni ALLUOGI myfyrwyr i greu newid.  Ar y cyfan, er mwyn annog mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan, rhaid i chi ddarparu cyfleoedd iddyn nhw fod yn asiantau newid ac i fod yn gyfranogwyr gweithredol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”

 

 

Parhau â'r Momentwm    

 

Mae Undebau Myfyrwyr ledled y DU wedi ymgymryd â'r rôl o fod yn arweinwyr rhanbarthol COP21, yn helpu myfyrwyr i ddeall mwy am newid hinsawdd.

Roedd y cytundeb ym Mharis yn gadarnhaol ond nid yw'n ddigon da. Mae cael rhywbeth yn well na dim byd – mae'n rhywbeth i ddatblygu arno – ond nid yw'n ddigon o bell ffordd. Ond mae angen i fyfyrwyr, gweithredwyr a chymunedau brodorol ddal y llywodraeth i gyfrif ac i barhau i hybu cynaladwyedd ar yr agenda wleidyddol.  Chawsom ni ddim yr hyn y gofynnom ni amdano (ymrwymiadau i 80% o danwydd ffosil gael eu cadw yn y ddaear a 100% o ynni adnewyddadwy erbyn 2050).

Gallwn gynnal y momentwm hwn gan roi grym i fudiad y myfyrwyr alw ar ein sefydliadau i ddadfuddsoddi o danwyddau ffosil ac i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.

 

 

Beth mae hyn yn ei olygu i'n prifysgolion? Mae hyn yn erbyn ethos a diben ein sefydliadau addysg i gyfrannu at ddinistrio bodau dynol a'r amgylchedd. Mae UCM newydd gyhoeddi dau adroddiad cenedlaethol newydd. Mae un yn adroddiad statws ar fuddsoddiadau yn niwylliant tanwyddau ffosil ac mae'r llall yn adroddiad ar agweddau myfyrwyr a staff at danwyddau ffosil ac ynni adnewyddadwy.  Mae'r rhain yn dangos bod tua £100 miliwn o waddolion prifysgolion bendant yn cael eu buddsoddi mewn echdynnwyr tanwyddau ffosil.  Mae hyn yn groes i ddymuniadau myfyrwyr, undebau myfyrwyr ac aelodau staff; mae 85% ohonyn nhw'n meddwl y dylai eu prifysgol fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ac mae 75% am gael cyfle i fuddsoddi'n lleol.

 

Mae'r cyfarfodydd ym Mharis wedi rhoi mwy o fomentwm i'r mudiad dadfuddsoddi.  Yng Nghymru, mae Bangor, Caerdydd ac Abertawe eisoes wedi pasio cynigion drwy eu Hundeb Myfyrwyr i'w sefydliad ddadfuddsoddi. Ledled y DU, mae dros ddwsin o brifysgolion wedi dadfuddsoddi hyd yma, ac mae llawer mwy ar fin gwneud hynny. Gall myfyrwyr hefyd fod yn rhan o'r ateb. Yn SOAS, y sefydliad cyntaf ym Mhrifysgol Llundain i ddadfuddsoddi, mae cymdeithas myfyrwyr wedi sefydlu prosiect, ynghyd â chyn-fyfyrwyr, i brynu paneli solar ar gyfer toeau diddefnydd yr ysgol. Nhw sydd piau'r ynni sy'n cael ei greu a chaiff ei weithredu fel cydweithgarwch a arweinir gan fyfyrwyr.

Yn ystod y 18 mis nesaf, byddwn ni'n gweithio gyda'n hundebau myfyrwyr i gyflawni'r canlynol:

i)        Dadfuddsoddi pob ceiniog o'r £100 miliwn sy'n cael ei wario ar danwyddau ffosil a'i ailfuddsoddi mewn ynni effeithlon / glân / adnewyddadwy;

ii)       Annog cymaint o brifysgolion a cholegau â phosib i gytuno i beidio buddsoddi ymhellach mewn tanwyddau ffosil;

iii)       Annog cymaint o brifysgolion a cholegau â phosib i ymrwymo i ynni 100% adnewyddadwy erbyn dyddiad o'u dewis nhw. Gellid prynu neu gynhyrchu hyn.

 

 

Fydd cytundeb COP21, pa bynnag mor hanesyddol yw ef, byth yn mynd i'r afael â newid hinsawdd ar ei ben ei hun.  Yn enwedig pan mae llywodraeth y DU, llai nag wythnos ar ôl cytuno i gadw at gynnydd o ddwy radd yn nhymheredd y byd, wedi torri cymorthdaliadau i'r sector adnewyddadwy, sy'n cynnwys 65% o doriadau mewn ynni solar, ac wedi caniatáu ffracio mewn parciau cenedlaethol ers hynny. Cyfrifoldeb ni - myfyrwyr, gweithredwyr a chymunedau brodorol - yw gwneud hynny, ac rydyn ni'n gwneud hynny drwy wrthwynebu tynnu tanwyddau ffosil, newid ein system addysg, a symud ein harian i'r economi carbon-isel. 

 

Byddwch yn obeithiol nid yn hunanfodlon. Mae'r her dal o'n blaenau.

 

Categories:

UCM Cymru

Related Tags :

cynaladwyedd,myfyrwyr,Cymru,addysg,planed,cop 21

More NUS connect Articles

More Articles...