Menu

Ildio'r Grym

Thursday 19-05-2016 - 13:50

Dirprwy Lywydd, Ebbi Ferguson yn trafod sut cafodd hanes ei greu yn y Gynhadledd Genedlaethol ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid.

Bu'r Gynhadledd Genedlaethol hon yn Brighton yn weddol hanesyddol i Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid. Pasiodd y Gynhadledd bolisi a fydd yn sicrhau bod llais 700,000 o brentisiaid ledled y DU yn cael ei glywed. Meddai'r rhan fwyaf o fudiad y myfyrwyr, beth bynnag fo'ch modd astudio, dylech chi gael eich cynrychioli ac mae eich problemau'n werth brwydro drostyn nhw. Cafodd dau aelod o'r Gymdeithas Genedlaethol eu hethol yn aelod o'r CC sy'n sicrhau bod ymgyrchoedd y swyddogion llawn amser yn cynnwys prentisiaid a bod eu hundeb cenedlaethol yn gweithio ar eu rhan.

 

Yn y gynhadledd eleni, siaradom ni gryn lawer am ddatblygu mudiad pwerus er mwyn newid y byd. Ond anghyffredin yw ein bod ni'n siarad am bwy sydd â grym yn ein symudiad a'n mudiadau ein hun.

 

Ond rydw i'n credu er mwyn deall pwysigrwydd y digwyddiadau hyn, mae angen i ni edrych ar ein taith ac o le rydym wedi dod.

 

Yn 2010, safodd yr Is-lywydd Datblygiad Undebau ar y pryd ar lwyfan yn Gateshead a gofynnodd i'r cynrychiolwyr ddychmygu cynhadledd gyda miloedd o brentisiaid. Er ei fod yn swyddog sabothol prifysgol, fe oedd un o'r cyntaf i ddeall roedd yna nifer helaeth o fyfyrwyr nad oedd yn cael eu cynrychioli. Roedd angen newid hynny.

 

Felly dechreuodd pobl siarad ar ran prentisiaid. Ond i lawer, roedd hyrwyddo prentisiaid yn hawdd ei ystyried yn rhethreg - ‘geiriau bachog’ neu ymadroddion i ennill pleidleisiau. Doedd neb mewn gwirionedd yn deall gwir ddiben y cysyniad o ‘roi llais i brentisiaid’. Roedd realiti prentisiaid yn sefyll a siarad o blaid eu hunain yn bell o'u cyrraedd.

 

Bu pedair blynedd arall tan i Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid gael ei ffurfio. Yn 2014, cafodd digwyddiadau CGyP eu lansio ledled Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Daeth ymgysylltiad UCM â phrentisiaid yn realiti ac am y tro cyntaf roedden ni'n siarad â'r myfyrwyr roedden ni'n siarad amdanyn nhw ers amser maith.

 

Flwyddyn yn ddiweddarach, camodd Poppy Wolfarth o Asset Training ar y llwyfan a chafodd ei hethol yn aelod o'r CC. Hefyd yn ystod y gynhadledd genedlaethol hon, cafodd yr adran gyntaf o bolisïau UCM gan brentisiaid ei thrafod a'i phasio. Cafodd y rhain eu hysgrifennu gyda chyfraniad uniongyrchol democrataidd gan filoedd o brentisiaid ledled y DU. O'r diwedd, rhoddwyd llwyfan i brentisiaid a oedd wedi cael ei addo iddyn nhw ers 2010. Rhoddwyd llecyn iddyn nhw dynnu sylw at eu problemau a phleidio eu hachos eu hunain.

 

Roedd y cynnig a gyflwynodd First for Skills yn foment fawr ac yn un a ddechreuodd drafodaeth. Hwn oedd dechrau deialog rhwng hen fudiad y myfyrwyr, wedi'i rheoli gan swyddogion o undebau myfyrwyr mawr a phwerus, a grŵp o fyfyrwyr a oedd wir angen newid.

 

Y broblem oedd (a'r broblem yw o hyd) nad yw prentisiaid yn ffitio'r ffordd arferol o wneud pethau yn UCM. Mae rhai prentisiaid yn astudio mewn coleg, ond dydy mwy na dau draean ddim. Does dim ‘campws’ lle gall prentisiaid ffurfio undeb hen ffasiwn - a heb undeb, dydyn nhw ddim yn rhan o strwythurau UCM. Ond mae prentisiaid am drefnu eu hunain, maen nhw am greu undeb ac ymgymryd â'u rôl gyfiawn yn ein mudiad. Ar y dechrau, dwedodd CGyP roedden nhw yno i gynrychioli pob prentis, beth bynnag fo'u swydd, pwy bynnag a gyflwynodd eu hyfforddiant, pa bynnag ddiwydiant neu pa bynnag lefel. Roedden nhw'n ymgyrchu dros bob prentis.

 

Felly awgrymodd CGyP ffordd wahanol o wneud pethau. Gan ddysgu o fudiadau myfyrwyr galwedigaethol yn y Ffindir ac o undebau llafur yn yr Almaen ac yn Norwy, a gan weithio gyda Chyngres yr Undebau Llafur yma yn y DU, mae tîm arweinyddiaeth CGyP yn bwriadu datblygu arferion newydd ar gyfer democratiaeth gynhwysol sy'n cyrraedd prentisiaid yn eu gweithle. Mae CGyP wedi ymgysylltu â miloedd o brentisiaid ynghylch cwestiynau gwleidyddol mawr ac mae hynny eisoes wedi cael effaith enfawr ar draws y sector. 

 

Ein bwriad ni yw brwydro ac ennill, amddiffyn ac ymestyn hawliau myfyrwyr. Wel, gallen ni ddysgu gwersi gan CGyP. Hawliau gwaith cyffredinol fel tâl salwch. Buddugoliaeth i filoedd o brentisiaid am y tro cyntaf - cynnydd o 20% yng nghyflog isafswm prentisiaid. Gwych. Mae llawer o bethau i'w gwneud o hyd ond mae prentisiaid yn ymgyrch ac maen nhw'n ennill.

 

Maen nhw'n torri tir newydd o ran cynrychiolaeth myfyrwyr a dylai gweddill ein mudiad gymryd nodiadau. Ar adeg pan mae rhai yn dadlau bod democratiaeth UCM wedi torri, ac nad yw'n hundebau'n gynrychioladol, mae'r Gymdeithas Genedlaethol yn canfod ffyrdd o gynrychioli 700,000 o bobl, sydd heb undeb o gwbl, yn ddemocrataidd. Gwrthododd y Gynhadledd yn gadarn y syniad mai cyfarfodydd cyffredinol gorfodol oedd yr “un ffordd wirioneddol” o fynegi democratiaeth a'r unig ffordd o fod yn undeb “go iawn” oedd cynnal cyfarfodydd diflas gan ddadlau am faterion o drefn anhysbys.

 

Mae'n ddiddorol sut daeth y bleidlais i wneud prentisiaid yn aelod o UCM dim ond ychydig funudau ar ôl i'r Gynhadledd basio cynnig i gyflwyno swyddog traws llawn amser. Mae ein mudiad yn amlwg yn awyddus i weld datrysiadau radical o ran y ffordd rydyn ni'n cynrychioli myfyrwyr ac yn ennill drostyn nhw. Rydyn ni wedi dysgu bod gadael pobl heb awdurdod i bleidio'u hachos eu hunain, i arwain eu mudiadau eu hunain, yn ein gwneud ni gyd yn bwerus. Rydyn ni'n dysgu mai'r defnydd gorau o rym ein mudiadau yw ei ildio.

 

Ac mae hynny'n golygu gwahodd prentisiaid i'n llecyn fel bod modd iddyn nhw ein harwain ni hefyd. Am dair blynedd, roedd prentisiaid yn mynd i'r Gynhadledd Genedlaethol heb hawliau pleidleisio ac yn cael gwybod bob tro “cewch chi ymuno yn fuan, unwaith rydyn ni wedi penderfynu sut rydyn ni am eich trin chi”. Ond mae ‘yn fuan’ wedi bod yn hir yn dod.

 

A bydd rhoi grym i brentisiaid yn cymryd grym oddi wrth y prifysgolion mwy yn ein mudiad. Pan fydd Cymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid yn dod yn aelod llawn, gan gynrychioli miloedd o ddysgwyr, efallai bydd nifer eich cynrychiolwyr yn newid. Bydd angen i ni gyd bwyllo a mynd ati i weithredu ar y materion y mae prentisiaid yn dweud wrthym ni amdanynt - nid dim ond oherwydd dyna'r peth cyfiawn i'w wneud, ond am na fydd prentisiaid yn pleidleisio dros bobl sy'n eu hanwybyddu nhw. Wrth gwrs, i'r bobl o'r meddylfryd “gwnawn ni bopeth y ffordd rydyn ni wedi eu gwneud erioed”, mae hynny'n brofiad arswydus.

 

Er eich bod chi wedi cael gwybod am hyn i gyd, gwnaethoch chi basio'r cynnig i ddod â'r prentisiaid i mewn. Bu'r bleidlais yn sylweddol ac yn ddiamau.

 

Felly, diolch.

 

Rydyn ni gyd yn gwybod mai Cymru sy'n gwneud pethau orau, felly rydw i am ddyfynu Aneurin Bevan, ‘Diben cael grym yw ei ildio.’ Rhoi grym i brentisiaid yw'r ffordd fwyaf cyfrifol, cyffrous a democrataidd o ddefnyddio grym yn ein mudiad. Ac rydw i'n mawr obeithio mai dyma'r tro olaf y mae unrhyw un yn siarad ar ran prentisiaid.

Categories:

Blogs, UCM Cymru

Related Tags:

myfyrwyr addysg ucm undeb cenedlaethol cymru prentisiaeth prentisiaid llywodraeth cyhadledd ewrop norwy cymdeithas

More NUS connect Articles

More Articles...