Menu

Derbyniad y Gaeaf a Lansiad Maniffesto UCM Cymru

Thursday 10-12-2015 - 12:35
Manifesto cy

Lansiwyd Maniffesto UCM Cymru neithiwr yn swyddogol yn ystod Derbyniad y Gaeaf. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd a daeth dros 50 o bobl i'r achlysur, o wahanol sefydliadau yn ymwnued ag addysg a mudiad y myfyrwyr.

 

Dyma araith a roddwyd gan Beth Button, Llywydd UCM Cymru ar y noson yn trafod ei weledigaeth i Gymru yn y dyfodol a pha mor bwysig yw gweithio ar y cyd er mwyn sicrhau canlyniadau.

 

"Helo a chroeso i'n derbyniad blynyddol yma yn yr Eglwys Norwyaidd, a lansiad ffurfiol ein gweledigaeth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

Rydw i'n addo cadw fy araith mor gryno â phosib, wedi'r cyfan, dyw'r gwin ddim yn mynd i yfed ei hun.

Mae'n wych gweld cynifer o ffrindiau, cefnogwyr a chydweithwyr yma i adlewyrchu ar flwyddyn nodedig i UCM ac i wleidyddiaeth.

Rydym wedi gweld y byd yn mynd yn lle mwy peryglus - mae'r creithiau a chleisiau a adawyd yn sgil y digwyddiadau erchyll hyn yn peryglu ein ffordd o fyw.

Rydym wedi mynd drwy etholiad cyffredinol, a synnodd y wlad, gan newid ein tirwedd wleidyddol.

Ac ers hynny, gwelwyd adferiad mudiad sy'n dymuno gweld "math newydd o wleidyddiaeth" wrth i bleidleiswyr annog gwleidyddion i nid yn unig ddweud beth maen nhw'n mynd i wneud, ond eu bod yn gwneud yr hyn maen nhw'n ddweud.

Mae'r awydd hwn am wleidyddiaeth newydd yn dod â'n mudiad ni'n nes at eich mudiadau chi mewn sawl achos.

Felly heno rydyn ni'n rhannu ein maniffesto ar gyfer yr etholiadau nesaf ynghyd â neges - sef ein bod ni am weithio gyda chi i ffurfio'r wleidyddiaeth newydd honno.

Ond yn fwy na hynny - rydyn ni am i chi gydnabod bod myfrywyr ac undebau myfyrwyr yn ganolog ac yn rhan annatod o'r wleidyddiaeth newydd.

Beth bynnag fo'ch tueddfryd gwleidyddol, ni ellir gwadu'r ffaith fod myfyrwyr a phobl ifanc ar draws y byd yn dechrau dangos diddordeb. Mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn barod ac yn awyddus i gyfranogi mewn gwleidyddiaeth.

Ac os yw ein harweinwyr gwleidyddol eisiau i ddatganoli fod yn gynrychiadol - mae angen iddynt fod yn fwy blaengar. Mae angen iddynt weithio nawr i harneisio gweithredu gwleidyddol y genhedlaeth hon.

Felly os ydych chi o ddifrif ynglŷn â bod am i fyfyrwyr a phobl ifanc i bleidleisio i chi, rydyn ni o ddifrif ynglŷn â gweithio gyda chi i wneud hynny.

 

Y flwyddyn y tu ôl i'r blynyddoedd sydd i ddod

Ond rydw i am ddechrau heno drwy ddefnyddio ambell ystrydeb wleidyddol a ddefnyddir yn llawer rhy aml.

Mae eleni wedi bod yn un o'r blynyddoedd mwyaf allweddol yn hanes mudiad y myfyrwyr yng Nghymru. A gallai'r flwyddyn nesaf fod yn bwysicach fyth.

Rydw i'n dweud hynny, nid i danseilio'r hyn a gyflawnwyd gan fy rhagflaenwyr, nag i fychanu'r heriau a wynebwyd ganddynt, ond yn hytrach bod mudiad y myfyrwyr yn wynebu'r ffaith bod llawer o'r pethau rydym wedi eu cymryd yn ganiataol dan fygythiad.

Rydyn ni'n wynebu'r ffaith nad yw llawer o'r hyn a ymladdwyd drosto gan fy rhagflaenwyr bellach yn ddiogel.

Ychydig fisoedd sydd tan yr etholiadau cenedlaethol, sydd o bosib yr anoddaf mae undebau myfyrwyr ac UCM Cymru wedi eu hwynebu wrth fynd ati i gyflawni ein hamcanion ers dechrau'r broses ddatganoli 15 mlynedd yn ôl.

Rydym yn sylweddoli bod cyllidebau'n dynn a bod y gofynion sy'n wynebu Llywodraeth Cymru'n cynyddu.

Rydyn ni'n wynebu pum mlynedd arall o orfod gwneud arbedion, prinder arian a Llywodraeth yng Nghymru fydd yn gorfod llunio cyllideb sy'n cydweddu â'r arian sydd ar gael iddynt, fydd yn arwain at ddiffyg buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus

- Ond tra'i bod yn bosib bod gan fyfyrwyr gydymdeimlad â'r sefyllfa hon, ni allwn danbrisio'r hyn sydd yn y fantol.

- Rydyn ni eisoes wedi gweld effaith llymder ariannol yng Nghymru, wedi ei adlewyrchu yn y gyllideb addysg.

- Mae cymorth ariannol at gostau byw myfyrwyr wedi cael ei rewi.

- Mae cronfeydd caledi ar gyfer myfyrwyr wedi dod i ben eleni.

- Gorfodwyd addysg bellach i grebachu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Mae mwy i hyn na ffigurau negyddol ym Mharc Cathays neu Dŷ Hywel.

Mae'n golygu na all pobl sy'n awyddus i ddychwelyd i addysg, er mwyn dysgu sgiliau i'w galluogi i gael swydd, fynd i'r coleg.

Bydd yn golygu staff yn colli eu swyddi a chyrsiau'n diflannu.

Bydd mwy o fyfyrwyr yn cymryd benthyciadau i gwrdd â chostau eu hastudiaethau.

Felly mae UCM Cymru'n wynebu her enfawr yn y misoedd nesaf - fel byddai'r gwleidyddion sydd yma'n deall yn iawn.

Nid yn unig ydyn ni'n wynebu llywodraeth yn Llundain sydd â pholisi o leihau gwariant cyhoeddus, ond llywodraeth yng Nghaerdydd a all fod heb ddewis ar wahan i ddilyn eu harweiniad.

 

Undebau Myfyrwyr

Yn ein cynhadledd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam fis diwethaf, gofynnais i undebau myfyrwyr chwarae rôl ganolog mewn gyrru gwaith UCM Cymru yn ei flaen.

Roedd y neges yn un sy'n cydnabod gwir werth UCM - mudiad sy'n harneisio cryfderau undebau myfyrwyr ledled y wlad mewn hyrwyddo ac amddiffyn sut y byddwn yn mynd ati i gefnogi myfyrwyr a sut rydym yn gosod gwerth ar eu dull o fyw.

Mae'r gwerthoedd rydym yn eu rhannu parthed gweithredu ar y cyd yn bwysicach nag erioed o'r blaen.

Boed yn ymdopi â'r bygythiadau sy'n ein hwynebu ar lefel byd-eang, bygythiadau i'n fordd o fyw, neu drefnu yn erbyn newidiadau'n nes adref - mae'r angen i weithio gyda'n gilydd yn glir.

Rwyf wedi siarad am yr heriau mae hyn yn ei olygu i fudiad y myfyrwyr - yr her o fod yn unedig pan na fyddwch chi wastad yn cytuno. O weithio gyda'n gilydd pan na fyddwch chi bob amser eisiau'r un pethau.

Ond rydyn ni'n gweithredu mewn cyfnod o her aruthrol - yn wleidyddol ac yn economaidd.

Mae toriadau mewn cyllid cyhoeddus yn golygu her aruthrol i fudiad y myfyrwyr; rhaid i ni sicrhau nad yw ein gweithredu ar y cyd yn cau'r drws ar y rheiny sy'n anghytuno â ni, ond yn hytrach ei fod wedi ei dargedu i sicrhau ein bod yn dylanwadu ar y byd er budd myfyrwyr.

Rydyn ni'n wynebu byd ansicr iawn lle mae'r bygythiad o derfysgaeth yn bygwth nid yn unig ein bywydau, ond hefyd ein ffordd o fyw.

Mae myfyrwyr a phobl ifanc wastad wedi ymladd y bygythiad hwnnw drwy weithio ar y cyd.

Ond nid oes gennym ni, fel mudiad, unrhyw sicrwydd y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd fel rydym yn gwneud nawr - rhaid i ni ddangos nerth y mudiad i'w gadw at y dyfodol.

Caiff hynny ei brofi'r flwyddyn nesaf -  yn y refferendwm ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

Fel mudiad, rydym wastad wedi datgan bod aelodaeth o'r UE yn hanfodol i gynnal enw da Cymru fel cartref i fyfyrwyr o bob rhan o'r byd. Rydyn ni'n wynebu her aruthrol wrth geisio sicrhau bod llais Cymru i'w glywed yn y drafodaeth honno.

Rydw i'n benderfynol y bydd UCM Cymru'n chwarae rhan mewn sicrhau y bydd Cymru a gweddill y DU yn parhau i fod yn rhan o'r teulu Ewropeaidd.

Fel cynrychiolydd y DU yn Undeb Myfyrwyr Ewrop, gallaf weld drosof fy hun sut mae undebau myfyrwyr yn chwarae rhan enfawr mewn annog ymgyrchwyr ifanc, brwdfrydig sy'n gallu mynd allan i'w cymunedau i siarad am werth cydweithredu, yma ac ar draws Ewrop gyfan.

Ond rydw i'n gwybod, fel Llywyddion UCM Cymru yn y gorffennol, y gallwn ni wneud mwy -  a gallwn ennill mwy dros fyfyrwyr. Gartref a thramor.

Felly rydw i'n gofyn i chi i gyd - fel pleidiau gwleidyddol, cyfeillion beirniadol a sylwedyddion sydd â diddordeb - i ymuno â ni mewn cydnabod gwerth yr hyn mae myfyrwyr ac undebau myfyrwyr yn ei gyfrannu at Gymru pan fyddwch yn ystyried eich polisïau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae cydnabod buddsoddi ym mhrofiadau addysgol, cartrefi a chyfleoedd cyflogaeth myfyrwyr, yn ogystal â'u mynediad i wasanaethau a chydraddoldeb, yn ddadl na ellir ei hanwybyddu.

Ein cenhadaeth yw cyflwyno'r achos bod myfyrwyr yn cyfiawnhau pob ceiniog o'r buddsoddiad hwnnw.

Mae blaenoriaethu mynediad i bob math o addysg, hyd yn oed mewn cyfnod o galedi a chyllidebau cyfyngedig, yn angenrheidiol i unrhyw wlad flaengar.

Nid myfyrwyr a phobl ifanc yw'r rhai y dylid eu rhoi o'r neilltu, dim ond oherwydd ein bod ni, yn ystadegol, yn llai tebygol o bleidleisio.

Felly rydym yn cyhoeddi ein maniffesto heddiw gyda neges ar gyfer ein llywodraeth newydd ddydd Gwener 6ed Mai.

Y neges yw ein bod ni'n credu bod addysg yn werth talu amdani a bod myfyrwyr oll yn werth buddsoddi ynddynt.

Credwn mai'r myfyrwyr tlotaf yw'r rheiny ddylid eu helpu fwyaf i fynd i mewn i addysg bellach ac uwch.

Credwn y gall pob math o addysg fod o fudd i gymdeithas yng Nghymru - gan gynnwys ôl-raddedigion, dysgwyr rhan-amser, oedolion sy'n dysgu, myfyrwyr coleg a phrentisiaid, yn ogystal ag israddedigion llawn amser mewn prifysgolion.

Ac ydym - rydym yn credu bod amddiffyn myfyrwyr yng Nghymru rhag miloedd o bunnoedd o ddyled yn achos teilwng.

Mae gan ein harweinwyr cenedlaethol gyfrifoldeb i fuddsoddi mewn system sydd o fudd sylweddol iddyn nhw.

Mae polisi sy'n golygu mai myfyrwyr Cymru sy'n gwbl gyfrifol am gyllido eu haddysg yn cymryd yn ganiataol mai nhw yw'r unig rai i elwa o'r addysg honno.

Y gwir yw, rydym i gyd yn elwa - yn economaidd ac yn gymdeithasol. Ac os ydym yn disgwyl rhannu'r manteision, mae angen i ni rannu'r gost sy'n wynebu myfyrwyr.

Buasai gwneud unrhyw beth arall yn troi cefn ar gyfrifoldeb moesol - ac yn gyfaddefiad nad ydym bellach yn ystyried addysg i fod o fudd i'r cyhoedd yn gyffredinol.

Dyna pam ei bod yn gwbl iawn i'r llywodraeth rannu yn y buddsoddiad mae myfyrwyr yn ei wneud er mwyn cael addysg.

Mae ein gwaith ni wedi dangos bod y cyhoedd yn gefnogol i ni yn hyn o beth - cred saith o bob deg o bobl y dylai hyn fod yn fater o flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru.

Mae UCM Cymru'n sefyll gydag undebau myfyrwyr ledled Cymru, ochr-yn-ochr â myfyrwyr Cymru mewn cadarnhau'r egwyddor honno ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n perthyn i'n mudiad.

Rydym yn sefyll yn gadarn â myfyrwyr Cymru yn eu disgwyliadau, sef na ddylid eu gwthio i ddyled, dim ond er mwyn gallu byw yn ystod eu hastudiaethau.

Rydyn ni'n gobeithio y byddwch yn sefyll gyda ni yn hyn o beth.

 

Dewisiadau cadarn

Credaf mai UCM Cymru sydd yn y safle gorau i hyrwyddo ac amddiffyn agenda myfyrwyr i'n harweinwyr a'n sefydliadau cenedlaethol.

Ond er mwyn gwneud hynny ag awdurdod, rydyn ni wedi bod yn arwain ymgynghoriad gydag undebau myfyrwyr, dros y tair blynedd diwethaf, o ran yr hyn maen nhw eisiau weld yn cael ei flaenoriaethu yn yr etholiadau hyn - tu hwnt i'r materion hynny rydym fwyaf adnabyddus amdanynt.

Ein gweledigaeth ar gyfer y system addysg yng Nghymru yw creu cydbwysedd lle nad oes un garfan o fyfyrwyr yn brwydro carfan arall am gyllid. Y nod yw creu cymdeithas gyfartal, yn ogystal â system addysg gyfartal.

Nid yw'r hyn maen nhw wedi ei ddweud wrthym o unrhyw syndod i'r rheiny sy'n gyfarwydd â phrofiadau myfyrwyr.

Maent wedi dweud wrthym eu bod am astudio heb ofnau ynglŷn â'i chael yn anodd talu biliau neu gael eu gadael â dyledion enfawr.

Maent wedi dweud wrthym y dylid amddiffyn myfyrwyr rhag taliadau enfawr, annheg am rentu tŷ neu fflat.

Maent wedi dweud wrthym y dylent fod yn gallu cael mynediad i wasanaethau beth bynnag fo'u cefndir, ble maent yn byw neu eu hamgylchiadau personol.

Maent wedi dweud wrthym eu bod eisiau rheswm i'w darbwyllo i aros yng Nghymru pan fyddant wedi graddio - gyda marchnad swyddi sy'n cydnabod y buddsoddiad maent wedi ei wneud yn eu haddysg eu hunain.

Maent wedi dweud wrthym eu bod am weld ymrwymiad gwirioneddol sy'n caniatáu iddynt astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y coleg neu'r brifysgol.

Ac maent wedi dweud wrthym eu bod am weithio tuag at Gymru sy'n cydnabod pawb sy'n byw yma - sy'n dysgu pobl ynglŷn â gwir werth y cyfraniadau a wneir gan bob grŵp ethnig, rhywedd, rhywioldeb a dosbarth.

Mae'r hyn maent wedi ei ddweud wrthym yn ffurfio sail i'n gweledigaeth heddiw.

Undebau myfyrwyr sy'n cynrychioli buddiannau eu campysau. Undebau myfyrwyr sy'n adnabod eu myfyrwyr orau, yr hyn maent ei angen, a'r profiadau maent yn eu cael.

Mae'r maniffesto hwn yn adlewyrchu barn cenhedlaeth o fyfyrwyr gweithredol.

 

Gwnewch gynnig i 'Bleidlais y Genhedlaeth'

Felly rydyn ni'n gofyn i wleidyddion o bob plaid ddod ymlaen â chynnig ar gyfer myfyrwyr oll - un sy'n gosod gwerth ar ein llais ac sy'n cydnabod yr hyn rydyn ni'n ei gynnig i gymdeithas. Nid dim ond yn nhermau economaidd, ond yn nhermau cymdeithasol hefyd.

Un o'r manteision hyn yw'r ffaith fod corff y myfyrwyr yn amrywiol iawn. Nid ffatrioedd sy'n cynhyrchu myfyrwyr unffurf sydd â'r un syniadau mo prifysgolion a cholegau.

Boed yn wthio i gael mynediad i gynhaliaeth i fyfyrwyr, neu'n ymladd dros well bargen ar gyfer addysg bellach, neu dros dai a fflatiau o'r safon rydym yn ei haeddu... mae'r hyn sy'n uno myfyrwyr oll gryn lawer mwy na'r hyn sy'n ein gwahanu.

Ond os yw gwleidyddion eisiau "pleidlais myfyrwyr" - mae angen i ni wybod beth rydyn ni'n pleidleisio drosto.

Rydyn ni wedi clywed dro ar ôl tro fod myfyrwyr a phobl ifanc yn "ddifater" ac nad oes diddordeb ganddynt mewn gwleidyddiaeth.

Realiti'r sefyllfa yw, mae ymateb myfyrwyr i'r materion erchyll y cyfeiriais i atynt ar ddechrau fy araith, yr argyfwng ffoaduriaid ac ymateb myfyrwyr i'r ddadl dros fudd-daliadau, yn dangos yn eglur nad dyma yw'r achos.

Ond nid yw myfyrwyr yn fodlon troi allan i bleidleisio, en-masse, ar sail teimlad o ddyletswydd ddinesig.

Rhaid i ni fod yn rhan o'r broses ddemocrataidd, yn bartner yn y ffordd mae ein democratiaeth yn gweithio. Rhaid i wleidyddion hefyd ddangos eu bod o ddifrif am ennill teyrngarwch myfyrwyr.

Mewn mudiad mor eang ac amrywiol â mudiad y myfyrwyr, rhaid i bleidiau wneud ymdrech i nid yn unig "siarad" â myfyrwyr, ond hefyd eu gwneud yn rhan o'r broses o sut maent yn llunio eu polisi ar adeg etholiadau.

Os nad ydyn nhw'n gwneud hyn, does ganddyn nhw mo'r hawl i fynnu ein pleidlais.

Os nad ydyn nhw'n gwneud hyn, allan nhw ddim hawlio gwir gyfreithlondeb pan fyddant yn gweithredu eu polisïau sy'n effeithio ar fyfyrwyr a phobl ifanc.

Os nad ydynt yn gwneud hyn, ni allant hawlio mai ni sy'n "ddifater".

Y gwir yw, rhaid i'r pleidiau - a phawb sy'n ymwneud â hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd - wneud cynnig gwirioneddol i fyfyrwyr, a rhoi rheswm i ni gyfranogi.

Rydw i'n benderfynol o ddefnyddio ychydig fisoedd olaf yr ymgyrch hon i werthu gwleidyddiaeth ddatganoledig fel prosiect sy'n werth i fyfyrwyr fynd ati i drefnu ac ymgyrchu drosto.

Rydw i'n gobeithio y byddwch chi i gyd yn ymuno â ni.

Diolch yn fawr i chi -  a mwynhewch weddill y gwin a'r bwyd!"

Categories:

UCM Cymru

Related Tags :

ucm Cymru myfyrwyr addysg gwleidyddiaeth maniffesto lansiad gaeaf nadolig

More NUS connect Articles

More Articles...