Menu

Cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, cyn iddi gymryd rhan ohonoch chi.

Wednesday 04-05-2016 - 17:22
Beth resized

Neithiwr, aeth myfyrwyr o ledled Cymru ar Twitter i siarad am etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd ar ddod, gan leisio eu barn ar faterion datganoledig yn ogystal â'u gobeithion a'u hofnau am y dyfodol.

Dangosodd y lefel hon o ymgysylltu y diddordeb sydd gan bobl ifanc a myfyrwyr yn y materion hyn ac yn y cyfle i sicrhau newid gwleidyddol ar y materion sydd o bwys iddyn nhw.  I fyfyrwyr, does dim amheuaeth nad yw'r etholiadau yfory'n bwysig gan fod y rhan fwyaf o faterion sy'n effeithio ar eu bywyd dyddiol yn cael eu penderfynu yn y Senedd, o drafnidiaeth gyhoeddus i gyrsiau coleg, i fynediad i wasanaethau iechyd meddwl hollbwysig.  Ac eto, gofynnwch i unrhyw fyfyriwr ar y stryd a'r tebyg yw na fyddan nhw'n pleidleisio. Mae llawer o bobl yn honni bod pobl ifanc a myfyrwyr yn ddifater, ond rydw i'n gwrthod derbyn hynny. Os bu i neithiwr ddangos unrhyw beth, dangosodd fod myfyrwyr a phobl ifanc yn hynod o frwd am faterion gwleidyddol. Ond yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn anghywir yw peidio â chael system wleidyddol sy'n cynnig lle i droi'r brwdfrydedd hwnnw yn weithredu gwleidyddol. 

Mae'r diffyg addysg wleidyddol mewn ysgolion yn golygu bod pobl ifanc yn tyfu heb ddealltwriaeth o'u rôl yn y system wleidyddol nac yn gwybod hyd yn oed bod eu barn yn ddilys. Rhaid i ni wneud i wleidyddiaeth weithio i bobl ifanc a pheidio â disgwyl iddyn nhw gyfranogi mewn system ddieithr.  Cyfrifoldeb ein gwleidyddion yw sicrhau bod pobl ifanc yn deall rôl y llywodraeth ddatganoledig – boed hynny drwy newid y cwricwlwm, siarad am faterion sydd o bwys i bobl ifanc yn hytrach na siarad atyn nhw – neu hyd yn oed gwneud eu hunain yn fwy hygyrch drwy'r amser, nid dim ond wrth ddynesu at etholiad.

Ond nid pobl ifanc yn unig sy'n ymddangos yn ddifater ynglŷn ag etholiad yfory.  Gellir dadlau mai'r bleidlais yfory fydd y pwysicaf i Gymru ers datganoli – gyda'r ansicrwydd o ran ennill mwyafrif clir a phoblogrwydd cynyddol UKIP. Felly pam mae'r etholiad hwn wedi teimlo'n ddibwys?  Llynedd, doedd dim modd osgoi clywed am yr etholiad, felly beth ddigwyddodd eleni? Beth ddigwyddodd i'r momentwm? Boed diffyg egni neu gyfres ddiflas o ymgyrchoedd yw'r rheswm, mae diffyg diddordeb y cyhoedd yn yr etholiadau'n fater o bryder.  I lawer o bobl, mae'r etholiad wedi teimlo fel safiadau parhaus dros ymadroddion mewn polisïau iechyd ac addysg heb lawer o sylwedd.  A dyna'r broblem gyda gwleidyddiaeth - materion go iawn a phobl go iawn sydd ar goll yn sŵn y rhethreg wag a'r holl ffraeo.

 

Ar ei gorau, mae gwleidyddiaeth yn rhoi llais i'r bobl leiaf breintiedig a chyfleoedd i'r rheiny dan anfantais. Mae'n adnodd i wella'r gymdeithas, felly pam dydy hi ddim yn ysbrydoli'n fwy?

Cyfrifoldeb pob un ohonom ni yw sicrhau bod gwleidyddiaeth yn addas i bawb, nid dim ond rhai. Ein cyfrifoldeb ni yw pleidleisio ac i gyfranogi… dylen ni wneud hynny nid yn unig er y rheiny a frwydrodd dros ein hawl i bleidleisio, ond er rheiny a gaiff eu heffeithio gan y penderfyniadau a wnaed gan y pleidiau gwleidyddol a etholir.

Os ydych chi'n fyfyriwr yma am dair blynedd yn unig, neu os ydych chi wedi byw yma hyd eich oes, yfory mae gennych chi ddewis nid yn unig o ran y polisïau rydych chi am eu gweld, ond dewis ynglŷn ag i bwy mae ein system wleidyddol yn addas.

Cyfle i adennill gwleidyddiaeth.

Cyfle i brofi bod y naratif sy'n honni bod myfyrwyr a phobl ifanc yn ddifater yn anghywir.

Cyfle i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, cyn i wleidyddiaeth gymryd rhan ohonoch chi.

Categories:

Blogs, UCM Cymru

Related Tags:

llywodraeth cynulliad UCM Cymru ucm addysg Cymru myfyrwyr etholiad gwleidyddiaeth

More NUS connect Articles

More Articles...