Menu

Cyllido ein Dyfodol

Wednesday 03-02-2016 - 13:32
Bethbutton wales 400x400

Mae myfyrwyr o Gymru wrth groesffyrdd.

Mewn rhai ffyrdd, mae gennym system sydd wedi canolbwyntio ar fyfyrwyr yn fwy nag unrhyw le arall yn y DU.

Does dim rhaid i israddedigion llawn amser dalu'r ffioedd uchafswm o £9k. Mae cymorth costau byw yn llawer mwy hael yma nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Er bod cymorth i fyfyrwyr anabl dros y ffin wedi cael ei leihau, mae Cymru'n sefyll yn gadarn. Am y tro.

Ond, mae ystod enfawr o addysg ôl-16 wedi'u gadael o'r neilltu.

Rydym wedi gweld addysg bellach (AB) yn dioddef wrth i gyllidebau gael eu cwtogi o 12% ers 2013.

Mae cyllid addysg i oedolion bron wedi diflannu: bu toriad o hanner llynedd yn unig.

Mae nifer y myfyrwyr rhan amser wedi lleihau'n gyson wrth i bolisi ffioedd frathu.

Nawr, rydym yn wynebu'r bygythiad o addysg uwch (AU) yn cymryd ei "dro" - gyda disgwyl i gyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) grebachu o draean y flwyddyn nesaf.

Bydd gorfod i amryw o'r adrannau hynny yn AU sydd eisoes yn dlawd - megis y ddarpariaeth ran amser, addysg gyfrwng Cymraeg, cymorth ar gyfer pynciau drud a chyllido ar gyfer ymchwil - ymladd dros y sbarion fydd ar ôl yn sgil polisi o gyfyngu ar fuddsoddiad yn ein system addysg ôl-16.

Roedd UCM Cymru a'n haelodaeth wedi rhagweld hyn, ac roeddem yn groch yn ein beirniadaeth. Ond hyd yma, ychydig iawn o sylw mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i'r rhybuddion hynny.

Dair blynedd yn ôl, cyhoeddwyd canlyniadau ymgynghoriad dwy-flynedd â myfyrwyr prifysgolion a cholegau, ein comisiwn Dychmygwch Addysg, sy'n gosod allan gweledigaeth ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru. Un oedd yn buddsoddi mewn myfyrwyr, beth bynnag fo'u hoedran, cefndir neu'r math o addysg oedd dan sylw.

Roedd myfyrwyr yn galw am addysg oedd yn:

  • Hygyrch i bawb, beth bynnag fo'u cefndir, oedran, amgylchiadau neu statws ariannol.
  • Astudiaeth hyblyg sy'n galluogi myfyrwyr, mewn unrhyw fath o addysg, sy'n gweddu i anghenion a diddordebau dysgwyr.
  • Creu system lle mae myfyrwyr yn bartneriaid gweithredol yng nghynllun a datblygiad eu haddysg, a lle mae llais myfyrwyr yn fwy na dim ond tic mewn blwch ar ffurflen werthuso.
  • Sicrhau bod sefydliadau addysgol a myfyrwyr y rhan annatod o'u cymunedau.

Nod y weledigaeth honno oedd creu cydraddoldeb rhwng gwahanol fathau o addysg a chyflwyno dewis gwirioneddol ar gyfer pob llwybr addysg - o ddysgu rhan amser i oedolion, i fyfyrwyr ôl-raddedig yn y brifysgol.

Ond mewn gwirionedd, bydd y weledigaeth honno'n amhosib i'w gwireddu oni fyddwn yn gosod gwerth ar ein sector addysg ôl-16 yn ei chyfanrwydd ac yn buddsoddi ynddi.

Bydd y gylchred barhaus o wahanol rannau o'r system addysg yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn dechrau erydu ansawdd y system yn gyffredinol.

Bob blwyddyn, rydym wedi gweld AB vs AU, rhan amser vs llawn amser, addysg i oedolion vs addysg ôl-raddedig.... oll wedi'u gorfodi i frwydro'n flynyddol dros gronfeydd ariannol sy'n mynd yn llai a llai.

Eleni, mae'r gyllideb ar gyfer AU wedi colli'r frwydr honno. Mae cyllid uniongyrchol gan CCAUC i brifysgolion wedi cael ei gwtogi o £41m - sef traean o'i grant uniongyrchol.

Mae hyn wedi cael ei gyfiawnhau ar sail y syniad bod AU wedi cael ei hamddiffyn yn flaenorol. O'r herwydd, dylai fod yn ddiolchgar oherwydd bod rhannau eraill o'r gyllideb wedi cael ergyd o'r blaen.

Ond tra'i bod, heb amheuaeth, yn beth da bod y cwtogi blynyddol yn y gyllideb ar gyfer AB wedi cael ei atal am flwyddyn o leiaf, mae'r syniad bod ein prifysgolion wedi cael eu hamddiffyn yn un gamarweiniol.

Mae'n sicr ein bod wedi gweld buddsoddiad mewn myfyrwyr, ond bydd toriadau i gyllideb CCAUC yn peri niwed pellach i wasanaethau hanfodol ar gyfer myfyrwyr na allwn fforddio eu gweld yn crebachu a marw. Mae'r cyhoedd o blaid buddsoddiad uniongyrchol mewn myfyrwyr, fel y gallant astudio yn y ffordd sy'n gweddu orau iddyn nhw, heb gyfyngiadau o ran cost.  

Ond mae toriadau mewn cynhaliaeth i fyfyrwyr AU rhan amser yn paratoi'r ffordd ar gyfer cynnydd mewn ffioedd dysgu, sy'n darbwyllo mwy o fyfyrwyr rhag mynd i mewn i astudio hyblyg.

Gydag astudio rhan amser yn aml y ffordd fwyaf poblogaidd i fenywod, i bobl anabl ac i ofalwyr fynd yn ôl i mewn i addysg - ymysg grwpiau eraill anodd eu cyrraedd - mae cyfyngu ar fynediad i astudio'n sicr o niweidio'r canolbwynt clodwiw a roddwyd gan y llywodraeth ar ehangu mynediad.

Mae toriadau mor llym yn y gyllideb yn mynd i arwain at bwysedd ar feysydd sy'n dibynnu ar gronfeydd cyllido llai, megis cyllido ar gyfer ymchwil ym mhrifysgolion Cymru. Hefyd mae ychydig o arian ar gael ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn ogystal â chyllido hanfodol ar gyfer pynciau drud megis meddygaeth, deintyddiaeth a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Rydym yn sylweddoli bod yr esgid fach yn gwasgu a bod Llywodraeth Cymru'n gwneud penderfyniadau anodd. Rydym yn gwybod bod rhaglen gyni cyllidol Llywodraeth y DU wrth galon y rheswm pam ein bod yn y fath sefyllfa drychinebus.

Ond rydym hefyd yn gwybod, pan gaiff cyllidebau eu torri, fel arfer gwasanaethau myfyrwyr yw'r cyntaf i ddioddef. Tra bod gwasanaethau lles yn mynd yn fregus, mae cyllidebau marchnata wedi cynyddu gan 22% ac mae gwariant ystadau i fyny 25%.

Mewn cyfnod o dynhau, mae angen ystyried addysg ôl-16 yn fuwch sanctaidd, yn hytrach nag oen i'w aberthu.

Os ydym am fod o ddifrif am agor addysg i bawb, agor llwybrau allan o dlodi a diweithdra i lawer ac nid dim ond ychydig, rhaid rhoi diwedd ar y cyfnod o dangyllido ofnadwy a chystadleuaeth niweidiol ar draws addysg ôl-16.

Mae UCM Cymru am i lywodraeth nesaf Cymru sicrhau'r cyfnod o gydraddoldeb i bob math o ddysgu a myfyriwr, y mae wedi ei addo ers blynyddoedd, cyn i'r frwydr fethu'n llwyr.

Categories:

Blogs, UCM Cymru

Related Tags :

More NUS connect Articles

More Articles...