Menu

Cofrestrwch nawr ar gyfer Cystadleuaeth Cofrestru Pleidleiswyr!

Tuesday 12-01-2016 - 10:36
1   education   cy

Bydd eleni yn flwyddyn bwysig ar gyfer democratiaeth Cymru – gyda nifer o etholiadau’n digwydd gan gynnwys Etholiadau’r Cynulliad, Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ogystal â’r posibiliad o gael Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £5000 i UCM Cymru rhedeg cystadleuaeth fel bod Undebau Myfyrwyr yn gallu cynnal gweithgareddau ‘Cofrestru Pleidleisio’.

 

Mae hyn yn golygu eich bod chi (boed yn undeb/clwb i fyfyrwyr/cymdeithas) yn gallu gwneud cais am hyd at £1,000, gyda chyfanswm o £5,000 ar gael i fyfyrwyr cael eu lleisiau eu clywed ar 5 Mai.

 

Os ydych am wneud cais, gallwch wneud gan glicio yma. Mae telerau ac amodau’r gystadleuaeth yma hefyd i chi ddarllen, os ddymunwch.

 

Gwnewch yn siwr eich bod chi’n cofrestru cyn gynted â phosib – mae’r dedlein yn agos!

Categories:

UCM Cymru

Related Tags:

gwleidyddiaeth llywodraeth Cymru UCM Cymru cynulliad etholiad myfyrwyr addysg

More NUS connect Articles

More Articles...